Bydd rhai o blant ardal Clonc yn rhan o seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2020 dros y penwythnos.
Bydd disgyblion o dair ysgol gynradd – Ysgol Dyffryn Cledlyn, Ysgol Bro Dderi ac Ysgol Bro Pedr – i gyd yn rhan o’r digwyddiad i groesawu’r Eisteddfod i Geredigion.
Llywydd y Cynulliad, Elin Jones yr Aelod Cynulliad o Lanwnnen, fydd yn cyflwyno’r copi cynta’ o restr testunau’r Eisteddfod i’r Archdderwydd newydd, Myrddin ap Dafydd, yn rhinwedd ei swydd hi yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith.
Cyn hynny, nos yfory (Iau, Mehefin 27), fe fydd Cymanfa Ganu’r Cyhoeddi wedi ei chynnal yng nghapel Soar, Llanbed, gyda’r enillydd Rhuban Glas o’r dref, Kees Huysmans, yn canu, Elin Jones yn Llywydd a chyn-weinidog Brondeifi, Goronwy Evans, yn rhoi’r fendith.
Gorymdeithio a chanu
Bydd y seremoni ei hun yn cychwyn gyda gorymdaith ar hyd strydoedd Aberteifi, a bydd y plant wedyn yn rhan o sesiwn canu a dawnsio wrth y Cei yng nghwmni cyflwynwyr Cyw, sy’n cynnwys Elin Haf Jones o Faesycrugiau.
Bydd y seremoni hefyd yn cynnwys perfformiad arbennig o’r Gân Groeso, gyda’r geiriau wedi eu cyfansoddi gan Bennaeth Theatr Felin-fach, Dwynwen Lloyd Llywelyn, ar y dôn ‘Diofal yw’r Aderyn’.
Bydd y seremoni yn cael ei chynnal ar gaeau chwarae Ysgol Uwchradd Aberteifi am 11yb, ac mae disgwyl i’r orymdaith gychwyn o gaeau’r ysgol am 10.15yb.
Mae Gŵyl y Cyhoeddi, yn draddodiadol, yn cael ei chynnal o leia’ flwyddyn cyn yr Eisteddfod ei hun, ac ym mis Awst y flwyddyn nesaf fe fydd yn dod i gyrion tref Tregaron.