Rôl newydd i Anwen ar Gomisiwn Athletwyr

gan Alis Butten
Gemau Gymanwlad 2014.

Mae Anwen Butten o Glwb Bowlio Llambed wedi cystadlu yn sawl digwyddiad bowlio lawnt dros y byd, Gemau’r Byd, Iwerydd, Rhyngwladol a’r Gemau Gymanwlad. Mae wedi cystadlu mewn 5 Gem Gymanwlad: Manceinion 2002, Melbourne 2006, Delhi 2010, Glasgow 2014, Arfordir Aur 2018 ac am hynny mae wedi cael ei phenodi fel rhan o dîm ar Gomisiwn Athletwyr a fydd yn gweithio i baratoi ar gyfer y Gemau Gymanwlad ym Mirmingham 2022.

Mae Anwen yn rhan o’r Comisiwn efo athletwyr eraill o dîm llwyddiannus Cymru: Gareth Evans (Codi pwysau), Lauren Price (Bocsio), Jaz Joyce (Rygbi), Rhys Jones (Athletau-para), Bethan Davies (Athletau) a Jazz Carlin (Nofio).

Rhan o’r gwaith fydd i fod yn llais i’r athletwyr fydd yn llwyddiannus i gynhyrchiol Cymru ym Mirmingham. Bydd rhaid rhoi cefnogaeth i ddewis cit gwisgo, trafnidiaeth, llety, unrhywbeth a phobeth a fydd yn debygol o effeithio perfformiad yr athletwyr.

Fel rhan o’r gwaith hefyd fyd Anwen yn trio codi proffil chwaraeon yng Nghymru, ysbrydoli pobol i gymeryd rhan a rhoi cefnogaeth arbennig i’r tîm ym Mirmingham.