Dyna oedd ymateb Kiera Cashel o Lanybydder pan ofynnwyd iddi “Beth oedd y peth ofnadwy a wnest di i gael row gan rywun?” – “Sa i’n cael lot o rows, fi’n angel!”
Mae Kiera yn Syrfewr Coed i Wasanaethau Coed Llanbed, a hi sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc y mis hwn.
Ar y llaw arall dywed ei bod fel Asyn “oherwydd rwyf mor styfnig.” Gallwch ddod i’w hadnabod yn eitha da wrth ddarllen y golofn arbennig hon yn rhifyn mis Mai Clonc.
Yr eiliad balchaf iddi’n broffesiynol oedd “Pasio prawf chainsaw” a’r cyngor gorau a roddwyd iddi oedd “Safia dy arian. Hala arian dy rieni.” Tipyn o gymeriad felly.
Ond sut fyddai hi’n gwario £10,000 mewn awr? Pryd llefodd hi ddiwethaf? Beth oedd y celwydd diwethaf iddi ddweud? A beth oedd yr eiliad a newidiodd ei bywyd? Cewch yr atebion i gyda ym Mhapur Bro Clonc. Mae’n werth ei brynu.