Sefydlwyd y gangen gyntaf erioed o Sefydliad y Merched yn Ontario, Canada yn y flwyddyn 1897, a’r un gyntaf yng Nghymru yn Llanfair P.G. ar Ynys Môn ym 1915.
Yn ystod y blynyddoedd yn dilyn, sefydlwyd llawer o ganghennau yma yn ein sir ni, sef Sir Gaerfyrddin, a sefydlwyd Ffederasiwn Sirol yn ogystal. Yn y flwyddyn 1949, derbyniodd Mr B. J. Jones – prifathro Ysgol Ram ar y pryd- lythyr o Swyddfa Sirol Sefydliad y Merched yng Nghaerfyrddin yn gofyn a oedd yn meddwl y byddai yna ddiddordeb ymysg gwragedd y pentref i sefydlu cangen o’r mudiad yma. Galwodd yntau gyfarfod ‘rhagarweiniol’ ar 13eg, Hydref 1949, pryd y daeth 22 o wragedd ynghyd i drafod y mater. Hefyd yn bresennol oedd dwy o Swyddogion Sirol y Sefydliad. Cymerodd Mrs Lindsay o Nantgaredig y gadair , a bu Mrs A. Mansel-Lewis o Benbre yn olrhain hanes y Mudiad.
Cynigiodd Mrs M. M. Jones, Brynteg, ac eiliodd Mrs M. L. Jones. Bryn Siop y dylid ffurfio cangen yma, gyda’r swyddogion arferol- llywydd, dwy is-lywydd a phwyllgor o 10 aelod. Enwyd y gangen yn Sefydliad y Merched, Coedmor, neu Coedmor W.I. hynny am fod yr ardal o fewn ‘hamlet’ Coedmor o Blwyf Pencarreg. Penderfynwyd mai’r man cyfarfod fyddai’r ysgol, a hynny ar y bedwerydd Dydd Llun o bob mis, a chroesawu merched 15 oed os byddent wedi gorffen yn yr ysgol, i fod yn aelodau. Enwebwyd swyddogion ar gyfer pleidleisio yn y cyfarfod nesaf ar 24ain o Hydref.
Mrs Lindsay oedd yn y gadair yn y cyfarfod yma eto, tra bu Mrs Beckinsale o Gastell Newydd Emlyn yn son am yr ochr ariannol o gynnal cangen o’r mudiad. Yr oedd yna 42 o ferched yn bresennol, ac i dalu eu tâl aelodaeth o 3s 6c (17½c). Eleni, mae’r tâl aelodaeth yn £43!
Yn dilyn pleidlais am swyddogion, Mrs M. M. Jones oedd y Llywydd, Mrs M. L. Jones a Mrs G. Davies Lleine yn is-lywyddion, Mrs L. Jones, Llysonnen yn ysgrifennydd a Mrs G. Evans, Plasnewydd yn drysorydd; er iddi hi ymddiswyddo yn y cyfarfod nesaf. Apwyntiwyd Miss R. M. Evans, athrawes yn yr ysgol i fod yn drysorydd yn ei lle.
Fel rhan o’n dyletswyddau, yr oeddem i gynnal hanner awr o adloniant ar derfyn pob cyfarfod misol a chynnal cyfarfod o’r pwyllgor hefyd yn fisol. Rhaid dweud na pharodd yr un o’r ddwy ddyletswydd yma yn hir iawn yn W.I. Coedmor!
Roedd yn rhaid ein bod yn sicrhau cael siaradwr neu arddangosiad erbyn ein cyfarfodydd, ac yn ffodus iawn, un o’r aelodau, Miss Bessie Davies roddodd arddangosiad coginio yn y cyfarfod cyntaf.
Nid yw cangen o’r Sefydliad yn cael cadw oll o’r arian tâl aelodaeth o fewn y gangen, ond rhaid ei rannu â’r Sir a’r Ffederasiwn Cenedlaethol. Rhaid felly oedd cynnal cyngherddau, gyrfaoedd chwist, dawnsfeydd, sioeau ffasiwn a llawer mwy i godi arian i redeg y gangen, Ers blynyddoedd lawer bellach, ein aelodau ni sy’n gyfrifol am baratoi lluniaeth ar gyfer diwrnodau cymdeithasol a gynhelir yn y pentref, sef diwrnod y Carnifal a Diwrnod Ffair Ram.
Codwyd llawer o arian ar hyd y blynyddoedd hefyd tuag at wahanol elusennau. Bob blwyddyn adeg y Nadolig, aethem o gylch y pentref i ganu carolau, a chasglu at achosion da. Mae un flwyddyn yn sefyll yn y côf yn fwy nag unrhyw un arall. Tra’r oeddem wrthi’n canu ar ystâd Heol Hathren, gydag uchelseinydd ar do car gŵr un o’r aelodau, dyma’r heddlu yn dod i roi taw arnom ni, oherwydd ein bod yn creu aflonyddwch! Roedd yna un unigolyn wedi gweld yn dda i’n riporto. A hynny yn nhymor Ewyllys Da!
Yn ystod y flwyddyn 1955/56, tynnodd y gangen sylw’r Cyngor Plwyf lleol i’r ffaith bod angen goleuadau stryd yn y pentref, Galwyd cyfarfod cyhoeddus, ac yn dilyn llawer o ymgynghori a chynllunio, goleuwyd yr ardal erbyn diwedd y flwyddyn.
Yn niwedd 1995, penderfynwyd newid ein man cyfarfod i’r Ganolfan Gymuned Newydd yn y pentre’, ac yn 1961, newid noson y cyfarfodydd i’r Nos Lun cyntaf a bob mis. Mae’r trefniadau yma yn dal yr un fath heddiw.
Mae pob cangen o’r mudiad yn perthyn i grŵp yn cynnwys ryw 6-8 cangen. Byddant yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn, a phob cangen yn ei thro yn estyn y gwahoddiad, ac yn cynnal y noson. Perthyn Coedmor i Grŵp Teifi, ac mae amryw o’r aelodau wedi dal swyddi llywydd a chynullydd (convener) o fewn y grŵp.
Dathlwyd pob pen blwydd arbennig ar hyd y blynyddoedd, a’r diweddaraf o’r rhain oedd ar y 7fed o Hydref eleni, pryd y gwelsom ddathlu ein 70ain, gyda chinio mawreddog yng Ngwesty’r Cawdor, Llandeilo, a hynny yng nghwmni Cadeirydd Ffederasiwn Cymru, Mair Stephens, ynghyd a thair o swyddogion y sir, sef Ann Halborg, Cadeirydd; Pat Thomas, Ysgrifennydd a Marylyn Haines Evans Ymgynghorydd grŵp Teifi.
Ein gŵr gwadd ar y noson oedd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys, gŵr a chanddo gysylltiadau teuluol yn yr ardal, ac yn adnabyddus i rai o’r aelodau. Cafwyd ganddo araith ddiddorol dros ben ynglŷn â’i waith, ac mae’n ymddangos ei fod yn berson prysur iawn.
Ymhyfrydwn yn y ffaith ein bod yn cynnal ein cyfarfodydd i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg, a chedwir pob cofnod yn Gymraeg. Dwy ffaith ddiddorol arall yw bod Mair Stephens, Cadeirydd Cymru yn hannu o Sir Gâr, a bod Is-lywydd Cenedlaethol y Mudiad a chyn Cadeirydd Cymru yn hannu o Geredigion, sef Ann Jones.
Yr ydym wedi cymryd rhan ac wedi ennill nifer fawr o gystadlaethau yn lleol ac yn y sir, a’r diweddaraf o’r rhain yw i dair o’n aelodau ennill Cwis Llyfrau Cymraeg yn y Sir. Llongyfarchiadau gwresog iddynt, ac i bawb a gymerodd ran mewn unrhyw fodd ar hyd yr amser. Braf yw nodi hefyd bod dwy o’n aelodau yn gwasanaethu ar Bwyllgorau Sir ar hyn o bryd.
Rhaid yw dweud wrth derfynu fy mod wedi mwynhau fy aelodaeth o Sefydliad y Merched Coedmor ers ei ffurfio yn 1949, ac ar achlysur dathlu ei 70ain pen blwydd, dymunaf iddo flynyddoedd lawer eto i addysgu ac i ddiddanu gwragedd, fel y gwnaeth yn y gorffennol.
Avril Williams – aelod gwreiddiol