Ar ddydd Llun Gŵyl y Banc eleni daeth cymuned Llanllwni ynghŷd ar gaeau Abercwm ar gyfer Sioe C.Ff.I. Llanllwni – ar ei newydd wedd!
Buom yn lwcus ei bod hi’n ddiwrnod braf, gan ddenu llu o gystadleuwyr a chefnogwyr. Roedd y babell gynnyrch yn llawn, a does dim dwywaith bod y beirniaid wedi crafu pen i ddewis yr enillwyr!
Llywyddion y dydd oedd Eric a Tegwen Davies, Ninant. Llongyfarchiadau i holl enillwyr y dydd sef :
Defaid Iseldir – Teulu Jones, Blaenblodau
Defaid Ucheldir – Teulu Evans, Pantycoubal
Pencampwr yr Adran Ddefaid – Teulu Jones, Blaenwaun Ganol
Pencampwr y Sioe Gŵn – Einir George
Pencampwr y Sioe Hen Gerbydau – Arwel Davies, Cartrefi Redwood
Adran Goginio – Ruth Evans
Adran Flodau – Janet Jones
Adran Llysiau – Eric a Janet Jones
Adran Gynnyrch Fferm – Teulu Jones, Blaenblodau
Adran Ffotograffiaeth – Janet Brook
Adran Grefft – Teulu Jones, Highview
Adran y Plant
Blwyddyn 2 ac iau – Einir George
Blwyddyn 3 i 6 – Tudur George
Blwyddyn 7 i 13 – Ffion Williams
Eleni am y tro cyntaf fe gynhaliwyd yr adloniant nos yn y babell ar y cae, a does dim dwywaith eu bod hi wedi bod yn noson arbennig! Diolch i Iestyn Owens am fod yn MC i’r rasus geffylau, a llongyfarchiadau i Gerwyn Thomas, Crossroads am ennill y rasus. Yn bendant, roedd hi’n noson i’r teulu gyfan, gyda pawb yn mwynhau’r ‘Hog Roast’, ocsiwn a’r Sioe Fideo Gwartheg.
Nifer uchaf o bwyntiau yn yr Adran Gwartheg Godro – Gwndwn
Nifer uchaf o bwyntiau yn yr Adran Gwartheg Bîff – Blaenwaun Ganol
Pencampwr Gwartheg – Gwarcwm
Allwn ni fel clwb ond diolch o waelod calon i’r gymuned am eu haelioni eleni eto. Hoffwn ddiolch i holl aelodau, arweinyddion a chefnogwyr y clwb am bob cymorth tuag at wneud Sioe 2019 yn un mor llwyddiannus. Fe fydd y swm terfynol yn rhifyn Clonc mis nesa ond bydd elw’r Sioe yn mynd tuag at yr Uned Oncoleg, Ysbyty Glangwili.
Os oes unrhyw un am ymuno â ni yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni, byddwn yn cynnal noson ‘Selsig a Seidr’ ar y 3ydd o Fedi yn Neuadd yr Eglwys, Maes-y-crugiau am 8yh i groesawu’r aelodau newydd. Welwn ni chi na!