Mae £700 arall wedi eu codi at Gronfa Eisteddfod 2020 Llanwenog a Llanwnnen ar ôl i tua 50 o bobl fynd ar daith gerdded yn yr ardal ddydd Sul.
Yr uchafbwynt oedd mynd i mewn i weld adfeilion hen blasty Llanfechan a oedd wedi ei losgi’n ddifrifol yn 1837.
Mae rhannau o’r waliau a siâp rhai o’r ffenestri i’w gweld o hyd gerllaw’r ffordd o Alltyblaca i Drefach – ar un adeg, dyma blasty pwysica’ plwyf Llanwenog i gyd.
Y daith
Roedd y daith gerdded wedi dechrau yn Ysgol Dyffryn Cledlyn, Drefach, ac yno y gorffennodd hi gyda phaned a bara brith a phice … ac roedd ‘choc ice’ hanner ffordd.
Hon oedd y daith gerdded flynyddol sy’n cael ei threfnu i godi arian gan Gyngor Cymuned Llanwenog a’r penderfyniad eleni oedd y dylai’r arian fynd at gronfa’r Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion.
Ar ddiwedd y tro, diolchodd y Cynghorydd Euros Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Apêl lleol, i’r Cyngor am eu cefnogaeth.
Dywedodd hefyd fod yr apêl yn nesu at ei tharged o £7,000.