Dim ond rhyw hanner milltir oedd taith Cadair yr Ifanc yn Eisteddfod Capel–y-Groes eleni, wrth i’r wobr fawr fynd i Twm Ebbsworth o bentre’ Llanwnnen.
Fe gurodd 11 o ymgeiswyr eraill i gipio’r gadair gyda cherdd ‘Gobaith’ yn sôn am fywyd pobol ifanc mewn mannau fel Maes B yr Eisteddfod a Phrifysgol Aberystwyth.
Fe gafodd ganmoliaeth uchel gan y beirniad, Luned Mair, am gerdd oedd, meddai, yn dal ysbryd pobol ifanc.
“Mae hi’n peintio darluniau clir, sionc, llawn bwrlwm ac mi wnaeth hi wneud i fi deimlo gwir hiraeth am ddyddie’ coleg a’i hafau hir, llawn hwyl ac addewid,” meddai.
Ennill yn gyson
Dyma’r diweddara’ mewn cyfres o wobrwyon llenyddol i Twm Ebbsworth sydd hefyd yn aelod amlwg o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog.
Pan oedd yn yr Ysgol Uwchradd yn Llanbed fe enillodd y Gadair dair gwaith yn olynol a gwneud dwbl y Gadair a’r Goron hefyd. Ymhlith gwobrwyon eraill, mae wedi ennill Tlws yr Ifanc yng Ngŵyl Fawr Aberteifi.
Eisteddfod arbennig
Roedd yr eisteddfod yng Nhgapel-y-Groes eleni yn un o’r gorau ers blynyddoedd gyda chefnogaeth fawr yn enwedig ymhlith y plant. Erbyn y cadeirio am 8.30pm, roedd 120 o berfformiadau gwahanol wedi bod ar y llwyfan.
Roedd Cadeirydd yr Eisteddfod, Manon Richards, yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth, yn enwedig gan yr Ysgol Gynradd leol, Ysgol Dyffryn Cledlyn, gyda nifer fawr o ddisgyblion yn cymryd rhan.
Ceir holl luniau’r eisteddfod yn rhifyn mis Mai Papur Bro Clonc.