Cawsom wythnos arbennig yn dathlu wythnos Carnifal Llanybydder ar ddiwedd Mehefin
Nos Lun cawsom daith helfa drysor o amgylch yr ardal, roedd Emyr, Rhian ac Elain wedi trefnu, sef enillwyr llynedd. Meryl, Anthony a Pugh enillodd. Roedd angen estyniad ar y Clwb Rygbi nos Fawrth ar gyfer y noson bingo, gan fod y lle yn orlawn.
Trainers oedd angen nos Fercher, gan taw noson yr helfa drysor o amgylch y pentref oedd hi. Ar ôl tipyn o gerdded ac edrych mewn i sawl gardd, yr enillwyr oedd Emma, Meinir, Sion a Sioned Fflur.
Diolch i Donna a Pat o Tangraig am adael i ni gynnal y digwyddiad yna ac i Evans Bros am argraffu’r papurau cwestiynau.
Roedd nos Wener yn noson o grafu pen yn wir, wrth i ni gystadlu yn y cwis yng Ngwesty Cross Hands.
Ar ôl brwydr galed, yr enillwyr oedd Norfolkinchance, llongyfarchiadau iddyn nhw, a phob lwc wrth iddynt fynd ati i drefnu y cwis y flwyddyn nesaf.
Diolch i Owen a Harri am drefnu’r cwis ac i Huw am holi’r cwestiynau. Diolch hefyd i Kevin a Vicky am adael i ni gynnal y cwis yn y Cross Hands.
Hoffai Pwyllgor Pentref Llanybydder ddiolch i bawb a wnaeth gymryd rhan ac i bawb a ddaeth i gefnogi’r carnifal. Heb y cefnogwyr byddai’r pwyllgor yn methu trefnu’r holl ddigwyddiadau, yn enwedig y trip blynyddol.
Blwyddyn nesaf bydd Carnifal Llanybydder yn dathlu 60 mlynedd o fodolaeth. Felly mae’r paratoi yn dechrau nawr – thema y carnifal fydd unrhyw beth i ymwneud â’r 60au: rhaglenni teledu, cerddoriaeth, digwyddiadau, ayyb.