Fe fydd Rali Ffermwyr Ifanc Ceredigion yn dod yn ôl i ardal Clonc y flwyddyn nesa’ ar ôl i Glwb Llanwenog ennill yn Lledrod ddydd Sadwrn.
Dim ond marc oedd rhyngddyn nhw a’r ddau glwb oedd yn gydradd ail – Felinfach a Penparc – ond roedd y clwb wedi ennill marciau’n gyson trwy gydol y dydd.
Yn y diwedd, fe gawson nhw 147 o farciau, o gymharu â 146 i Felinfach a Phenparc ac roedd deg clwb o fewn 15 marc i’w gilydd yn un o’r ralïau mwya’ clos ers blynyddoedd.
Gwneud cloc
Un o’r uchafbwyntiau oedd buddugoliaeth Carwyn a Meinir Davies Caerwenog yn yr adran grefft gyda 99 o farciau mas o 100 am greu cloc ar thema hwiangerdd – Hicori Dicori Doc yn eu hachos nhw.
Roedd Carwyn wedi adeiladu cloc pren hardd a Meinir wedi pwytho’r rhifau ar ei wyneb – yn ôl y beirniad, roedd yn ddodrefnyn y byddai’n hapus iawn i’w gael gartre’.
Araith
Fe gafodd Endaf Griffiths, Penlanfawr, Cwrtnewydd ei urddo’n Ffermwr Ifanc y flwyddyn yn y rali hefyd a gwnaeth araith ysgubol yn pwysleisio cyfraniad y Ffermwyr Ifanc at ddyfodol cefn gwlad a’r frwydr sydd angen ei hymladd i amddiffyn y bywyd gwledig.