Addoli dros y we y Pasg hwn

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Gyda drysau capeli ac eglwysi lleol wedi gorfod cau oherwydd pryderon am ledu’r Coronafeirws, rhaid canmol dyfeisgarwch gweinidogion ac aelodau capeli lleol am gadw’r fflam ysbrydol ynghyn.

Drwy ddefnyddio’r we, gwelwyd myfyrdodau mewn llun a gair yn yr wythnosau diwethaf.

Delyth a Rob Phillips a fu’n gyfrifol am Neges Sul y Blodau Cylch Eglwysi Bedyddwyr Gogledd Teifi mewn fideo ar facebook a youtube.  Darlledir fideo Sul y Pasg bore ‘ma hefyd gan y Parchedig Densil Morgan.

Mae’r Parchedig Alun-Wyn Dafis a’r Parchedig Wyn Thomas wedi bod yn cyhoeddi myfyrdodau fideo ar ran Cymunedau Undodaidd Llwynrhydowen a Brondeifi ar wefannau cymdeithasol.

Ceir myfyrdodau achlysurol gan y Parchedig Huw Roberts ar wefan Bethel Parc-y-rhos a bu rhai o’r aelodau yn arbrofi gyda chreu myfyrdod fideo.  Cyhoeddir ambell un ar y wefan cyn hir.

Mae yna gapeli ac eglwysi eraill yn yr ardal yn rhannu negeseuon a chadw mewn cysylltiad gan ddefnyddio facebook.

Er bod y drysau ynghau am y tro, mae’n dal yn bosib cyd addoli wrth hunan ynysu yn ogystal â chyrraedd cynulleidfaoedd ehangach.