Llongyfarchiadau i Alpha Evans o Gwmann sydd wedi ei hethol yn ysgrifennydd cyffredinol i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Tipyn o gamp i fyfyrwraig yr ail flwyddyn sy’n astudio Cymraeg fel gradd.
Mae Alpha yn ferch alluog iawn, ac ymfalchiwn yn ei llwyddiant.
Yn y noson wobrwyo a gynhaliwyd nos Wener ar gampws Singleton, cyhoeddwyd enwau’r swyddogion newydd ac yn eu plith mae tri siaradwr Cymraeg – y Llywydd newydd, Swyddog Materion Cymreig ac Alpha’r Ysgrifennydd Cyffredinol.
Ond siom i’r swyddogion newydd a anerchodd y myfyrwyr yn ddwyieithog oedd clywed sylwadau dirmygus tuag at yr iaith Gymraeg. Yn ôl un mynychwr clywyd geiriau fel “Was there a need to do it in English and in Welsh?”
Cafwyd ymateb tanllyd i hyn wrthgwrs ar twitter, ac ymhlith y sylwadau cafwyd datganiad gan Brifysgol Abertawe “Rydym yn brifysgol ddwyieithog falch, ac yn mynd ati i annog ein staff a’n myfyrwyr i ddefnyddio eu Cymraeg. Nid yw gweithredoedd anffodus lleiafrif bach yn adlewyrchu agwedd y brifysgol tuag at yr iaith mewn unrhyw ffordd.”
Ond newyddion da yw bod tri o’r swyddogion yn ddwyieithog, ac Alpha yn eu plith. Y gobaith yw y byddant yn parhau i ddefnyddio’u Cymraeg yn gyhoeddus a brwydro dros yr iaith ymhlith myfyrwyr Abertawe. O adnabod Alpha, bydd hi’n siwr o wneud gwahaniaeth o ran sefyllfa’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn ogystal â materion eraill yn ymwneud â lles a hawliau myfyrwyr yno.