Yn llawn bywyd, yn llawn hanes, ac yn barod i droi ei law at beth bynnag a ddaw

Delyth Evans sydd wedi ysgrifennu am ei thad-cu Rhythwyn Evans yng ngholofn ‘Cymeriadau Bro’ Clonc.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Rhythwyn Evans o Silian yw testun colofn ‘Cymeriadau Bro’ Papur Bro Clonc y mis hwn.  Dyma gymeriad yng ngwir ystyr y gair, ond mae’r darllen yn ddifyr hefyd gan yr ysgrifennwyd y portread hyfryd hwn gan ei wyres Delyth sy’n llenor ifanc cydnabyddedig.

Mae galw heibio Fferm Tan-y-Graig am ddeg y bore yn werth ei wneud. Gyda’r wellingtons wrth y drws, gallwch fentro bod y tegell ar ystof a Rhythwyn yn ei sedd arferol wrth yr Aga yn diddori ei gynulleidfa ag un o’i hen storïau.

Yn ŵr, tad, tad-cu, ffrind, ffermwr, ac erbyn hyn yn ddigon adnabyddus fel cerddwr hefyd – pa bynnag ffordd yr ydych chi’n ei adnabod, mae Rhythwyn Evans, Tan-y-Graig, yn gymeriad adnabyddus iawn yn ardal Llanbed.

Fe gofiwch i Rhythwyn godi arian rhyfeddol tuag at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrth gerdded 91 o weithiau o gwmpas ei gartref yn ystod y cyfnod clo.

Ond mae’r darlun byw sydd gan Delyth ohono ym Mhapur Bro Clonc yn werth ei ddarllen.  Mynnwch gopi heddiw o’r siopau lleol, neu drwy danysgrifio ar lein.