#AtgofGen “Bwlch ni ddangosai lle bu”

Teimlad o falchder a gwacter wedi wythnos Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Pabell S4C ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984.

Roeddwn wedi nodi yn fy nyddiadur ar ddydd Sul 12fed Awst i mi gysgu tan 11.30 o’r gloch. Dim ymarfer, dim dyletswydd, dim gwerthu Clonc na mynychu cyngherddau hwyr! Y cyfan drosodd. Ond mynd fu’n rhaid yn y prynhawn, nôl i’r Maes Carafanau – i gasglu sbwriel.

Am 2.30 o’r gloch cynhaliwyd Cymanfa’r Plant yn y Pafiliwn. Yr arweinyddion oedd Elonwy Davies ac Eirian Jones gydag Hefin Owen wrth yr organ.

Yn rhagair rhaglen Cymanfa’r Plant, ysgrifennodd Twynog Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Cerdd:

“Penderfyniad unfrydol Pwyllgor Cerdd y Brifwyl eleni oedd trefnu Cymanfa Ganu i’r Plant ar y prynhawn Sul olaf. Yn bersonol, teimlaf y dylai hon gael ei chynnal yn flynyddol er mwyn i blant y fro deimlo yn rhan o’r Eisteddfod.”

Wedyn am 8 o’r gloch yr hwyr, cynhaliwyd y brif Gymanfa Ganu gyda Twynog Davies a Delyth Hopkins Evans yn arwain ac Eirian Jones wrth yr organ. Yn ei ragair yn rhaglen y Gymanfa Ganu, ysgrifennodd Twynog:

“Anodd fyddai meddwl am yr Ŵyl Genedlaethol heb y Gymanfa Ganu. Dyma uchafbwynt pwrpasol i weithgareddau’r wythnos a gwahoddiad i bawb o bob enwad i ddod at ei gilydd i ganu clod i Dduw. Croesewir chwi i ardal sydd yn gyfoethog ei diwylliant, lle mae’r Gymanfa Ganu yn dal i chwarae rhan bwysig yn ein traddodiad cerddorol.”

A dyna ni.  Wythnos Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro wedi dod i’w therfyn.  Bu’n eisteddfod lwyddiannus ar sawl lefel.

Adroddwyd ym mhapur Y Cymro 14eg Awst:

“Gwerthwyd pob copi o’r cylchgrawn Lol yn Eisteddfod Llambed ac mae cyfarwyddwr y wasg, Robat Gruffudd yn priodoli’r llwyddiant i brotestiadau Hawliau i Fenywod.

Argraffwyd 3,000 o gopïau o Lol eleni, mwy nag erioed o’r blaen, a dywed Y Lolfa mai wythnos yr Eisteddfod eleni fu’r mwyaf llwyddiannus yn hanes y cylchgrawn.”

Yng ngholofn ‘Popian’ Papur Bro Clonc, ysgrifennodd Iona James am adloniant i’r ifanc yn ystod yr wythnos:

“Doedd Twrw Tanllyd ddim yn llwyddiant arbennig, mae’n debyg. Mae gan bobl fwy o ddiddordeb mewn gwario eu tair punt ar bedwar peint ychwanegol yn y Black Lion na chlywed pop Cymraeg.

Felly Bedlam yn arbennig a’r nosweithiau gwerin sy’n aros yn y cof gen i o’r Steddfod yn fwy na’r dawnsfeydd pop.”

Dyma a ysgrifennodd Gwyn Derfel yng nghylchgrawn pop Sgrech Nadolig 1984:

Mae’r “Byd Pop Cymraeg” yn ddyledus i’r Eisteddfod Genedlaethol am ysgogi nifer o ieuenctid bro’r Brifwyl i fynd ati i ffurfio grŵp.  Gwelwyd hyn yn Llanbed eleni, pan gododd nifer o grwpiau megis “Coryn Gwyllt”, “Dolur Rhydd” a’r “Cathod Aur” yn arbennig ar gyfer yr Ŵyl.  Mae’r tri grŵp yma dal i fodoli, ac maent yn ennill cefnogaeth ieuenctid eu hardal drwy berfformio’n aml.

Darlledwyd yr eisteddfod ar S4C, Radio Cymru ac ar sianelau eraill. Yn ôl cylchgrawn Sbec, darlledwyd y seremonïau yn fyw ar S4C am 2.30 o’r gloch bob prynhawn gyda R Alun Evans yn sylwebu, rhaglen wedi ei recordio am 8 o’r gloch yr hwyr a thelediad byw o’r stiwdio ar y maes gyda Huw Llywelyn Davies yn bwrw golwg nôl dros gystadlaethau’r dydd bob nos am 8.45 o’r gloch tan 10.30.

Yng nghylchgrawn Y Faner 24ain Awst cafwyd gair o ganmoliaeth i’r cyfryngau gan W Vernon Howell, Caerdydd:

“Diolch o galon i griwiau’r BBC a HTV am ddod â gwledd yr Eisteddfod i’n haelwydydd yr wythnos ddiwethaf.”

Daeth cyfanswm o 141,000 o bobl i’r eisteddfod yn Llanbed. Er nad oedd cymaint â Llangefni yn 1983 sef 144,000, daeth mwy o bobl i’r brifwyl yn Llanbed nag aeth i Fachynlleth 1981 (122,000) ac Abertawe 1982 (133,000).

Adroddodd y Western Mail ar Ddydd Llun 13eg Awst bod presenoldeb uchel a thywydd da wedi torri colled ddisgwyliedig yr Eisteddfod i £20,000. Amcangyfrifwyd y byddai wedi bod yn £41,000. Roedd yr eisteddfod wedi costio £850,000 a gwnaed £172,000 o werthiant tocynnau. Ac oherwydd y tywydd da dywedodd y trefnydd y byddent yn arbed £8,000 gyda llai o waith trwsio niwed i’r caeau. Credwyd hefyd bod Sioe’r Tair Sir yng Nghaerfyrddin wedi cael effaith negyddol ar y niferoedd a ddaeth i Lanbed.

Ond ym Mhapur Bro Clonc yn ddiweddarach, cyhoeddwyd bod yr Eisteddfod yn yr ardal wedi gwneud elw o £21,793.

“Ar ddiwedd y dydd roedd cyfanswm y taliadau yn £826,501. Derbyniwyd £21,793 yn fwy na hynny! Swm y gall y sawl a fu’n weithgar gyda’r Ŵyl fod yn falch ohono.”

I’r cannoedd oedd wedi bod mor weithgar yn paratoi am yr Ŵyl a cheisio rhuthro o un digwyddiad i’r llall yn ystod yr wythnos fawr, roedd sylweddoli bod y cyfan ar ben yn deimlad rhyfedd iawn.  Y raddol, difannodd y pafiliwn a’r pebyll o gaeau Pontfaen gan adael ond atgofion.  Dyma a ysgrifennodd Margaret Jones yn y Cambrian News 2il Tachwedd:

“Bwlch ni ddangosai lle bu” yw llinell olaf awdl Madog T Gwynn Jones, a hwyrach bod teimlad tebyg i hyn yn meddiannu llawer ohonoch fu’n gweithio mor ddiwyd a hapus dros Eisteddfod Llanbed. Ond os oes hiraeth yna hefyd mae boddhad mawr o fod wedi cael gweld y cyfan yn mynd heibio mor llwyddiannus.

Cafwyd ‘Sgŵp!’ i godi’r galon ym Mhapur Bro Clonc:

“Gall ‘Clonc’ ddatgan fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i Lambed a’r fro yn y flwyddyn 2000. Penderfynwyd estyn yr ail wahoddiad hwn mewn cyfarfod cudd yn un o dafarndai’r dre ddydd Llun diwethaf.”

Ond ddigwyddodd hynny ddim, er i Lanbed groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 1999.

Roedd cysgod y ddwy goron dal ar y brifwyl serch hynny, a gwneuthurwr y goron a gafodd ei gwrthod yn bygwth erlyn yr eisteddfod am ei gam arwain. Dywedodd Tony Lewis o Feirionnydd yn y Tivy Side ar y 10fed o Awst y byddai’n erlyn yr eisteddfod am £1,000. Ychwanegodd fod aelod o’r pwyllgor gwaith wedi archebu’r goron er nad oedd ganddo unrhyw beth yn ysgrifenedig.

Pwy a enillodd y wobr am werthu nifer fwyaf o Bapur Bro Clonc ar y Maes yn ystod yr wythnos?

“Rhaid rhoi clod arbennig i Dewi Jones, Cwmsychbant a werthodd 341 o gopïau gan ennill gwobr am y gwerthwr gorau, a’r brodyr Ifan a David Hargreaves, Llanwnnen a enillodd yr ail a’r drydedd wobr. Go lew chi bois!”

Ym mis Medi, ysgrifennodd Irene Williams, Cadeirydd Pwyllgor Llety a Chroeso lythyr at aelodau gweithgar y pwyllgor. Mae ei geiriau hi’n crynhoi’r croeso a estynnwyd i Gymru gan bobl weithgar leol.

“Erbyn hyn daethoch ‘nôl o’ch gwyliau wedi llwyr ddadflino gobeithio ar ôl y digwyddiad mwyaf mentrus a fu’n Llambed erioed. Ie Eisteddfod Genedlaethol sy’n rhan o hanes bellach, fel un lwyddiannus, gartrefol, hapus. Mae rhan helaeth o’r llwyddiant yn ddyledus i’r pwyllgor Llety a Chroeso, hynny yw – y chi.

Yr aelodau a fu wrthi yn gweithio’n gyson â phwyllgorau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ac yna’r wythnos fawr ei hun, y miloedd cwpaneidiau te, y brechdanau, y bara brith a’r cacennau bach a baratowyd ac a roddwyd gyda chroeso ac wynebau hawddgar. Does dim rhyfedd iddynt fod wrth ddant pawb.

‘Rwy’n siwr y cytunwch â mi i gyd wrth roi diolch arbennig iawn, iawn i Eleri am drefniadau’r ceginau a fu mor hwylus drwy gydol yr amser o fore Sadwrn hyd ddiwedd y Gymanfa nos Sul. Yr oedd yna swm o arian dros ben, ond yn bwysicach na hynny oedd ymateb yr holl ymwelwyr cyson i’r awyrgylch hapus.

Hefyd i Henllys fel Is-lywydd am ei chyfraniad hithau ym mhob cyfarfod, ac yn arbennig yn y Babell ar y Maes drwy gydol yr wythnos megis deheulaw i’r Capten Hazel. Wel, mae ymennydd Hazel fel compiwter, fe wyddai hon am bob ystafell a gwely sbâr yn Llambed a’r holl ardaloedd. Bu’n brysur, bu’n amyneddgar, bu’n serchog, beth bynnag fyddai’r broblem, a daeth o hyd i le i bawb a ofynnai amdano. Nid ar chwarae bach mewn tref fechan ac ardal mor eang oedd cyflawni hyn oll. Nid tasg rwydd yw bod yn ysgrifenyddes llety i’r Genedlaethol lle bynnag y bo, ond cwblhawyd y cyfan yn Llambed yn ddidrafferth ac i’r ddwy yma mae’r clod.

Ie, diolch, diolch bob cam o’r ffordd i’r holl aelodau, gyda’n gilydd fe orffennwyd y dasg enfawr hon a phawb yn siarad â’i gilydd ar y diwedd. Yn wir, yng ngeiriau Trefnydd Eisteddfodau’r De, Y Parch J Idris Evans, “Bu hwn yn Bwyllgor Llety a Chroeso hapus dros ben o’r dechrau hyd y diwedd”.

Diolch am ymateb gwych i wragedd Llambed a’r fro.”

Wedi 36 o flynyddoedd, mae yna ddisgwyl mawr i weld y brifwyl nôl yn yr ardal.  Bu llawer o weithgareddau’n lleol er mwyn codi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni.  Mae’n Ŵyl sydd wedi datblygu llawer ers 1984, ac ymhen blwyddyn arall gobeithio, y cawn estyn yr un croeso i Dregaron a chreu atgofion newydd.