#AtgofGen Cymanfa Ganu Eisteddfod Genedlaethol 1984

Ailddarlledir y Gymanfa ar Ganiadaeth y Cysegr BBC Radio Cymru wythnos nesaf.

gan Twynog Davies

Mae Radio Cymru wedi penderfynu ail ddarlledu Cymanfa Ganu’r Brifwyl yn Llanbed ar Suliau Awst 2il a 9fed.  Mae hyn yn rhan o arlwy’r orsaf yn absenoldeb Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni. Bydd y canu i’w glywed naill am 7.30 y bore neu ar Caniadaeth y Cysegr am 4.30 y prynhawn.

Wedi paratoi Côr yr Eisteddfod yn yr Emyn o Fawl ac un o weithiau cyfoes Arwel Hughes, gyda chymorth Elwyn Davies Llanybydder, dyma wahoddiad yn dod oddi wrth y Trefnydd – y diweddar Idris Evans i Delyth Hopkins Evans a minnau gyd arwain y Gymanfa ar y nos Sul olaf.  Eirian Jones Cwmann oedd yr organyddes.  Tybed a oes yna ddau arweinydd wedi bod o’r blaen yng Nghymanfa’r Brifwyl?

Roedd yn brofiad bythgofiadwy i arwain cynulleidfa enfawr yn y pafiliwn.  Mi wnes i arwain y rhan gyntaf a Delyth yr ail hanner.  Gofynnwyd i D.H.Davies Prif Weithredwr Dyfed i fod yn Llywydd a Deulwyn Morgan i gyflwyno’r noson.  Roedd yn brofiad enfawr i mi yn ystod y Gymanfa i gael arwain Côr yr Eisteddfod yn canu clasur Emrys Jones Morte Christe.

Delyth gafodd y fraint o arwain emyn dôn fuddugol Llanbed.  Cofiaf yn dda hefyd arwain un pennill o waith Dafydd Jones o Gaio “O Arglwydd galw eto, Fyrddiynau ar dy ôl” ac yntau wedi byw yn hen gartref fy mam ar ffarm yr Hafod Llanwrda.

Roedd yna un ffaith diddorol arall i’r Gymanfa gan fod y diweddar Barchedig Lodwig Jones wedi ysgrifennu cyfeiriadau Beiblaidd ar gyfer pob emyn.  Gobeithio y gwnaiff y gwrandawyr fwynhau y canu wrth i ni droi’r cloc yn ôl 36 o flynyddoedd.  Y Parch R.Alun Evans fydd yn cyflwyno’r ddwy raglen.