#AtgofGen Dydd Sul Steddfodol Prysur a Safonol

Ymarfer, ymarfer, ymarfer, dau wasanaeth a chyngerdd ar ddydd Sul Eisteddfod Genedlaethol 1984.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Côr yr Urdd yn canu yn y gwasanaeth yn y Pafiliwn.

Fy nyddiadur personol – 5ed Awst

Er ei fod yn ddydd Sul, roedd hi’n ddiwrnod prysur iawn i fi heddiw gan geisio dala popeth.
9.30yb Ymarfer Côr yr Urdd ym Mhabell Bedlam.
10.30yb Mynychu Gwasanaeth yn y Pafiliwn a chanu gyda Chôr yr Urdd.
2.00yp Ymarfer Côr yr Urdd eto yn Soar.
2.45yp Ymarfer adrodd gyda Dilwen Roderick.
3.30yp Mynychu Gwasanaeth Bedlam yn y Babell Ieuenctid.
7.30yh Mynychu Drama Gerdd “Dewrach Rhain” yn Theatr Felinfach.

Thema’r Gwasanaeth Crefyddol a gynhaliwyd yn y Pafiliwn oedd “Gostyngeiddrwydd ac nid gwaseidd-dra”. Llywydd y gwasanaeth oedd yr Archddiacon J Samuel Jones gyda Delyth Hopkins Evans yn arwain y gân a Hefin Owen ar yr organ. Cyhoeddwyd Galwad i Addoli gan Andrew O’Neill, y Parchedig Stephen Morgan yn darllen Dameg y Mab Afradlon a’r Parchedig Alun Wyn Dafis yn arwain cyd-ddarlleniad Salm 51. Cafwyd eitem gan Gôr yr Urdd Llanbed dan arweiniad Twynog Davies a Rhiannon Lewis yn cyfeilio. Cafwyd y weddi gan y Parchedig Meurig Thomas, y bregeth gan y Gwir Barchedig Cledan Mears, Esgob Bangor a’r Fendith Apostolaidd gan y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor.

Dyma’r hyn a ysgrifennodd Hefin Jones am Wasanaeth y Babell Ieuenctid yn rhifyn cyntaf yr wythnos o Bapur Bro Clonc:

“Cynhaliwyd gwasanaeth gwahanol a dweud y lleiaf yn y babell ar brynhawn dydd Sul.  Cyflwyniad yn hytrach na’r gwasanaeth arferol a gawd, wedi’i ysgrifennu gan y Parch John Gwilym Jones, Bangor.  Sôn am bechadur yn darganfod capel ac yn troi ei gefn arno, ar ôl gweld traddodiadau a gweithgareddau’r capel.  Roedd y lle’n llawn er nad wyf yn siwr a oedd y gynulleidfa yn gwybod beth yn union i’w wneud o’r cyfan.”

Dywedodd E J Edwards yn y Western Mail:

“A chyn gorffen dowch gyda mi o’r Babell Len i Babell Bedlan lle’r oedd tyrfa fawr yn ei mwynhau’i hun brynhawn Sul yn yr oedfa arbennig a sgriptiwyd gan John Gwilym Jones.  Pam na allwn addoli mor llawen a hwyliog bob Sul?”

Disgrifiwyd y cyngerdd nos Sul yn y pafiliwn fel un gwefreiddiol ac iasol yn y Western Mail. Cyngerdd a noddwyd gan Towyn Roberts a Thelecom Prydeinig gyda Cherddorfa Symffoni Gymreig y BBC, Jacek Kasprzyk (Arweinydd), Peter Katin (piano) a Jane Watts (organ). Er y barnwyd nad oedd pafiliwn haearn yr eisteddfod yn le addas ar gyfer cyngerdd mor safonol, cafwyd cyfuniad deallus rhwng synau’r organ a synau’r gerddorfa.

Darlledwyd y rhaglen “Ffanffer” a gyflwynwyd gan Hywel Gwynfryn ar S4C am 8 o’r gloch gyda Chôr yr Urdd Llanbed, Ail Symudiad, Derec Brown, Aelodau Band y Cory, Glan Davies, Eirian a Meinir, Geraint Griffiths, Hapnod, Caryl Parry Jones, Côr Meibion Llanelli, Delyth Medi, Rosalind a Myrddin, Gwion Thomas, Hafod Henri, Sidni a Phobol y Cwm yn rhan o’r croeso i’r Eisteddfod.

Beth oedd ‘mlaen gyda’r hwyr:
Cyngerdd Towyn Roberts gyda Cherddorfa Symffoni Gymreig y BBC, Jacek Kasprzyk (Arweinydd), Peter Katin (piano) a Jane Watts (organ) yn y Pafiliwn. £2.50
Drama Gerdd “Dewrach Rhain” yn Theatr Felinfach. £2.00
Y Brodyr dan nawdd CAC yng Nghlwb Rygbi Llanbed. £2.00
– Noson Clwb Cawl a Chân yng nghwmni Meic Stevens a’r band ac Ali Grogan yng Nghlwb Rygbi Llanybydder. £2.00