Enillwyd Tlws y Ddrama gan Gwyn Wheldon a oedd yn gweithio i HTV yn yr Wyddgrug am ysgrifennu drama hir. Gobeithiwyd y byddai Seremoni Tlws y Ddrama yn batrwm ar gyfer seremonïau drama’r dyfodol.
Meistr y Ddefod oedd Gareth William Jones; yr Arwisgwragedd oedd Elin James ac Eryl Jones; Cludydd y Tlws oedd Philip Mason; Banerwyr oedd Neville Evans a Delfryn James, Y Corws oedd Ysgol Gyfun Llanbed a’r Organydd oedd Hefin Owen. Dyma ddisgrifiad o’r seremoni arbrofol yn rhifyn cyntaf yr wythnos o Clonc.
“Roedd y Seremoni yn olrhain hanes y ddrama ers y cychwyn – corws Groegaidd yn canu darn allan o Antigone i alaw newydd o waith Delyth Hopkin Evans; actorion yn llefaru geiriau allan o waith Shakespeare a Thwm o’r Nant, a dawnswyr (Plant Ysgol Rhydfelen) yn dawnsio dawns deyrnged a oedd yn cynnwys holl elfennau drama. Defnyddiwyd ffliwt, offerynnau pres a ffidil fel cyfeiliant i’r rhain.”
Beirniaid Tlws y Ddrama oedd Norah Isaac, William R Lewis a John Ogwen. Dyma ran o’r feirniadaeth yn y Cyfansoddiadau:
“Bu cryn drafod rhyngom fel beirniaid y gystadleuaeth hon, a rhaid dweud na chafwyd unfrydedd llwyr ynghŷn â gwobrwyo. Ond yr oedd dau ohonom yn gytȗn fod y ddrama ‘Be’ Ydi Be?’ yn deilwng o Dlws y Ddrama.
Hyderwn y caiff y perfformiad ohoni ei gyfarwyddo’n ddeallus, oherwydd y mae ynddi gryn gyfle i dri actor ymroddedig arddangos eu doniau.”
Adroddwyd yn y Daily Post hefyd bod Goronwy Evans wedi talu teyrnged yn ystod y Seremoni i’r actor Richard Burton a fu farw ar ddydd Sul. Dywedodd “Mae’n debyg ei fod yr actor mwyaf a gynhyrchwyd gan Gymru erioed.”
Yr Arglwydd Elystan Morgan oedd Llywydd y Dydd ac yn ei araith galwodd am ddatganoli i Gymru. Dywedodd bod tri amcan y gallai pobl o gefndiroedd gwleidyddol ac ieithyddol gwahanol ymgyrchu drostynt. Rhestrwyd hwy yn y Western Mail fel hyn:
1. Dychwelyd i fater o lywodraeth dros faterion cartref yn enwedig ar ôl siomedigaeth refferendwm 1979; 2. Canolbwyntio ymdrechion ac adnoddau ar gyfer ysgolion meithrin yng Nghymru er mwyn trawsnewid yr iaith Gymraeg, a 3. Galw am adolygu Deddf Iaith 1967.
Roedd aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi taflu tomen o lyfrau Saesneg ym Mhabell CBAC fel rhan o’r ymgyrch yn galw am Fwrdd Addysg Gymraeg. Llyfrau oedd y rhain a ddefnyddiwyd mewn Ysgolion Gymraeg gan nad oedd rhai Cymraeg ar gael. Dywedodd arweinydd yr ymgyrch Toni Schiavoni yn y Western Mail “Protest heddychlon oedd hon, ond mae’n rhybudd y bydd y cam nesaf yn fwy difrifol.” Ychwanegodd “Rwy’n dysgu Daearyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a does dim un llyfr Cymraeg ar gael ar gyfer y cwrs Safon O newydd sy’n dechrau ym mis Medi.”
Roedd glowyr wedi gorymdeithio o’r Rhondda a chyrraedd y Maes heddiw a bu gwragedd dau löwr o Dde Cymru yn casglu arian ar gyfer cronfa caledi Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Parciwyd cerbyd ganddynt ger y brif fynedfa er mwyn darlledu ac apelio at yr eisteddfodwyr i gefnogi’r glowyr oedd ar streic. Dywedodd Gerald Howells ar ran Plaid Cymru yn y Western Mail “Y peth gorau am hyn oedd gallu codi arian tuag at y glowyr a rhannu ein neges gyda’r cyhoedd.”
Fy nyddiadur personol – 6ed o Awst
Dechreuodd fy nydd Llun Eisteddfod Genedlaethol i wrth ymarfer adrodd gyda Dilwen Roderick yn Awelon. Diwrnod mawr heddiw. Cystadlu yn rhagbrawf cystadleuaeth Adrodd o’r Ysgrythur 12-15 oed. Wedi dysgu’r darn sef ‘Cerdded ar y dŵr’ Mathew 14, Adnodau 22-33 i gyd a Dilwen druan yn ceisio ei gorau glas i fy nhrwytho i bwysleisio dweud “Arglwydd, achub fi!” gydag ofn, ond roedd fy meddwl i ar rywbeth arall.
Heddiw oedd y diwrnod cyntaf i griw ohonon ni fechgyn lleol wisgo gwisg Ambiwlans Sant Ioan a chynorthwyo Aneurin Jones, Hathren wrth fod ar ddyletswydd cymorth cyntaf ar y maes. Bûm ar ddyletswydd drwy’r bore a does dim cof gen i o weld neb yn dost, diolch byth!
Ond fe ddaeth yr awr. 1.30 y prynhawn yng Nghapel Noddfa o flaen y beirniaid W Rhys Nicholas a J Gwilym Jones. Roeddwn yn nerfus iawn, ond do es i drwyddi. “Byddai ychydig mwy o gynildeb yn grymuso’r dehongliad” oedd yn ysgrifenedig yn y feirniadaeth a “Diweddglo effeithiol.” Ac felly, na, ni chafwyd llwyfan. Rhyddhad! Nôl felly i grwydro’r maes, a dim rhagor o ymarfer am y tro.
Aethon ni i weld Pasiant y Plant yn y Pafiliwn gyda’r hwyr oherwydd roedd fy mrawd bach Dafydd yn gwneud début fel Dai yn y Ffeiriau gydag Ysgol Ffynnonbedr.
Canlyniadau’r Stiwdio Gerdd: Ffidil 15-19: Bethan James, Abertawe; Fiola 15-19: Elin Morris, Llanrhystud. Soddgrwth 15-19: Nia Harries, Dinas Cross. Gitâr 15-19: Emyr Evans, Caernarfon. Ffliwt: 15-19: Rachel Jones, Llanbed. Obo 15-19: Rhiannon Lloyd Jones, Caerdydd. Clarinét 15-19: Katherine Jones, Llanbed. Basŵn 15-19: Jeremy Huw Williams, Dinas Powys.
Canlyniadau’r Pafiliwn: Grŵp Offerynnol dan 13: Côr Telynau Eryri, Caernarfon. Parti Dawnsio Gwerin 12-15: Dawnswyr Y Strade, Llanelli. Parti Cyd-adrodd 12-18: 1. Aelwyd Dyffryn Banw, Llanerfyl; 2. Parti Glannau’r Duar, Llanybydder. Grŵp Offerynnol i Ysgolion Uwchradd: 1. Pedwarawd Chwyth De Morgannwg; 2. Pedwarawd Ysgol Penweddig, Aberystwyth. Parti Dawnsio Gwerin 15-19: 1. Dawnswyr Y Llan, Llanelli; 2. Parti Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan; 2. Aelwyd Caernarfon. Unawd Bechgyn 12-15: 1. Alun Tiplady, Abertawe; 2. Jason Bellis, Caerfyrddin; 3. Gwyn Hugh Jones, Llanbedr-goch, Ynys Môn. Unawd Cerdd Dant 12-15: 1. Rhian Williams, Caerfyrddin; 2. Nia Wynne, Frongoch, Dyffryn Ardudwy; 3. Sian Parry Griffiths, Pentreuchaf, Pwllheli. Côr Cymysg: 1. Côr Godre’r Garth, Pontypridd; 2. Côr Cymysg Pwllglas a’r cylch ger Rhuthin. Unawd Merched 12-15: 1. Sharon Evans, Brynteg, Ynys Môn; 2. Rhian Williams, Caerfyrddin; 3. Eleri Vaughan Williams. Unawd Cerdd Dant dros 50: 1. Emrys Jones, Llangwm; 2. Dan Puw, Parc, Y Bala; 3. Elwyn Thomas. Rhuban Glas Offerynnol i Ieuenctid: Nia Harris, Dinas Cross, Abergwaun.
Bu 17,000 o eisteddfodwyr ar y maes heddiw.
Beth oedd ‘mlaen gyda’r hwyr:
– Pasiant y Plant “Ar Gered” yn y Pafiliwn. £2.50 gyda disgyblion Ysgol Felin-fach, Ysgol Ciliau Parc, Ysgol Cribyn, Ysgol Llanarth, Ysgol Llan-non, Ysgol Llwyncelyn, Ysgol Aberaeron, Ysgol Cross Inn, Ysgol Mydroilyn, Ysgol Dihewyd, Ysgol Bwllch-llan, Ysgol Gartheli, Ysgol Pen-uwch, Ysgol Trefilan, Ysgol Llanllwni, Ysgol Llanwenog, Ysgol y Dderi, Ysgol Bronnant, Ysgol Llanddewibrefi, Ysgol Lledrod, Ysgol Llangeitho, Ysgol Pontrhydfendigaid, Ysgol Tregaron, Ysgol Ffynnonbedr, Ysgol Llanwnnen, Ysgol Coedmor, Ysgol Crug-y-bar, Ysgol Ffarmers, Ysgol Abergorlech, Ysgol Llansawel, Ysgol Llanafan, Ysgol Ysbyty Ystwyth, Ysgol Swyddffynnon, Ysgol Llan-y-crwys, Ysgol Caio, Ysgol Llanybydder, Ysgol Gors-goch, Ysgol Pontgarreg, Ysgol Cilcennin. Ysgol Pennant, Ysgol Capel Dewi, Ysgol Talgarreg, Ysgol Tre-groes, Ysgol Pont-siân, Ysgol Cwrtnewydd, Ysgol Cwm-du, Ysgol Rhydcymerau, Ysgol Talyllychau, Ysgol Llanilar, Ysgol Llandysul, Ysgol Capel Cynon, Ysgol Aberbanc, Ysgol Glynarthen, Ysgol Bron-gest, Ysgol Coed-y-bryn, Ysgol Rhydlewis, Ysgol Trewen, Ysgol Adpar ac Ysgol Ramadeg Llandysul.
– Rhydcymerau, cyflwyniad gan Gwmni Theatr Brith Gof yn Hen Farchnad Llambed (tu ôl i Neuadd y Dref) £2.00
– Cwmni Whare Teg yn cyflwyno “Y Siaced” gan Urien William yn Theatr Coleg Dewi Sant, Llanbed.
– Cwmni Drama Llwyndyrys yn cyflwyno “Tewach Dŵr” gan William Owen yn Ysgol Gyfun Aberaeron. £2.50
– Drama Gerdd “Dewrach Rhain” yn Theatr Felinfach. £2.50
– Noson Cymdeithas yr Iaith yng nghwmni Meic Stevens a Derec Brown a’r Racaracwyr yng Nghlwb Rygbi Llanbed. £2.00
– Noson Clwb Cawl a Chân yng nghwmni Plethyn a Steve Eaves a’i driawd yng Nghlwb Rygbi Llanybydder. £2.00
– Mabinogi, Maraca, Gwestiwn Da a Sian Wheway dan nawdd CAC yn yr Old Quarry, Llanbed.
– Cyngerdd Mawreddog gan Aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion yn Neuadd Sant Iago Cwmann. £1.00
– Twrw Tanllyd gyda Crys, Louis a’r Rocyrs, Proffwyd a Disgo Y Ddraig Goch yn Neuadd Fictoria, Llanbed. £3.00
– Noson i’r teulu gyda Doreen Lewis a Bwchadanas ym Mlaendyffryn. £2.50