Cadeirydd cyntaf y Pwyllgor oedd Janet Lewis a’i merch Margaret oedd un o gyfeilyddion cyntaf yr Eisteddfod. Yn ôl dymuniad Syr David James ‘roedd yr Eisteddfod i’w chynnal ar Ŵyl y Banc Awst.
Rhaid oedd cael Pabell a Maes i gynnal yr Ŵyl. Y Maes oedd daear Ysgol Uwchradd Llanbed gyda’r Pafiliwn yn dod o Davies o Gaer yn ogystal hefyd a dwy fil o gadeiriau ynghyd â llwyfan enfawr. Dwy lori fawr yn cyrraedd y Maes wythnos cyn yr Eisteddfod. Yna ar ôl eu gosod yn eu priod le, ‘roedd y trydanwyr yn cydio yn eu gwaith i roi’r system sain yn ei lle. Swyddfa’r Ysgrifenyddion yn y Pafiliwn pren ar faes yr ysgol. Byddai’r pianos i’r Llwyfan a’r Rhagbrofion yn dod o Tarrs’ Rhydaman.
Yn 1967 y cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf, gyda chystadleuaeth cyfansoddi Emyn i’r Ifanc gyda gwobr o £300. Fe aeth pob pregethwr a bardd i dwmlo’r dreiriau a disgynnodd dros 150 o emynau ar fwrdd Gwyndaf a Tilsli, y ddau feirniad. Enillwyd y wobr gan W. Rhys Nicholas.
Trefnwyd Cyngerdd ar y nos Sul yn y Pafiliwn gyda 2000 yn bresennol i wrando ar Kenneth Bowen, Richard Rees a ChôrPendyrys. Dydd Llun oedd y Babell Lên a honno gystal ag un y Genedlaethol. Hefyd ar y Maes ‘roedd stondinau gan fusnesau’r dref. Ar y llwyfan mawr, ‘roedd tîm gweithgar yn talu’r sieciau. ’Roedd yn ofynnol yn ôl y telerau i gael tri neu dair o weithwyr banc at y sieciau, a’r rheiny oedd Sallie Jones, Elizabeth Warmington a fi, Beti. Yna byddai eraill yn cymryd at y Llyfr Llwyfan i gofnodi ac i ysgrifennu’r tystysgrifau. Lleolwyd y rhain ar y Llwyfan.
Yn 1968, ‘roedd angen tôn i emyn buddugol W. Rhys Nicholas y flwyddyn cynt. Daeth dros 100 o donau i law, y beirniad oedd Ian Perrott, Aberystwyth. Dewisodd dôn y byddai’n rhaid cael côr proffesiynol i’w chanu. Ar gais y Llywydd, Janet Lewis bu rhaid i’r beirniad ail edrych am dôn arall fyddai’n gymwys i gynulleidfa i’w chanu. I’r brig daeth ‘Pantyfedwen’ gan Eddie Evans, Eccles, Manceinion. Yn wir, ‘roedd ganddo chwech o donau yn y dosbarth cyntaf. I’r Eisteddfod yma, ‘roedd pob cystadleuaeth a beirniadaeth wedi eu hamseru, gyda’r Eisteddfod yn gorffen i’r funud.
Yn 1970 oherwydd i Geraint Rees, Llandyfaelog syrthio drwy gefn y llwyfan a thrwy’r gwifrau trydan (ond diolch byth heb gael niwed) adeiladwyd llwyfan newydd â chefn cadarn iddo. Er mwyn achub y gost euthum i chwilio am gadeiriau ein hunain. Llogwyd lori W. D. Lewis gyda help y stiwardiaid i gasglu cadeiriau o’r Neuaddau canlynol :– Neuadd Fictoria, Neuadd Cwmann, a neuaddau Llanybydder, Cwrtnewydd, Gorsgoch, Llanwnnen, Pumsaint, Llangybi a Felinfach. Adeiladwyd bwth i’r fynedfa, cafwyd Noson Lawen yn y Pafiliwn a Chymanfa Ganu yno nos Sul, a’r lle dan ei sang dros y penwythnos.
Er mwyn datblygu’r Eisteddfod, rhaid oedd arbrofi ac yn y Pafiliwn ar y nos Wener yn 1971 cafwyd Cystadleuaeth Cyfle’n Curo (Opportunity Knocks). Cynhaliwyd y nos Sadwrn rownd terfynol Hanner Awr Adloniant, y nos Sul y Gymanfa a’r dydd Llun yr Eisteddfod a’r Babell Lên. Hefyd y Babell Gerddorol, yr Adran Gelf a Chrefft a’r Adran Ambiwlans. Am y tro cyntaf, cyhoeddwyd gennym hysbysebion yn y Rhaglen.
Yn 1974, dewiswyd Elin James yn Ddewis Rhiain yr Eisteddfod ac i fod yn gyfrifol am yr ochr gyhoeddusrwydd. Yn 1975 apwyntiwyd Shirley Thomas, Cwmsychbant i fod yn Ddewis Rhiain ac yn 1976, Rhiannon Lewis ddewiswyd. Erbyn hyn, roedd yr Ŵyl yn cael ei chynnal dros bum diwrnod. Dyma’r flwyddyn y cychwynnwyd ar gystadlaethau i blant yn ysgolion dalgylch yr Ysgol Uwchradd. Gwnaed hyn i ddathlu degfed flwyddyn yr Eisteddfod.
Yn 1979, gwelwyd newid mawr yn Eisteddfod R.T.J. Oherwydd y gost ffarweliwyd â’r Pafiliwn a throi at Neuadd yr Ysgol Uwchradd a Neuadd Coleg Dewi Sant. Gan mai ar Ŵyl y Banc Awst y cynhelid yr Eisteddfod, anodd oedd cael corau i gystadlu. Felly, deuthum i fyny â’r syniad i gael cystadleuaeth i gantorion dan 25 oed gyda gwobr o £1000 i’r enillwyr a fyddai’n gymorth i hyrwyddo’u gyrfa. Galwyd y gystadleuaeth yn Llais Llwyfan Llanbed. Enillwyd y gyntaf gan Aled Hall, Pencader.
Os am gael mwy o hanes yr Eisteddfod, mynnwch gopi o’r llyfr Llais Llwyfan Llanbed o Siop y Smotyn Du!