Buddsoddiad o £3.2m i Ganolfan Dulais

Mae’r gwaith o ailddatblygu’r safle wedi dechrau

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae’r gwaith o droi Canolfan Dulais yn Llanbed yn unedau busned modern wedi dechrau.

Gyda chymorth buddsoddiad Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a chyllid Targedu Buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, fe fydd y cynllun yn costio £3.2 miliwn.

Bydd y cynlluniau newydd yn creu unedau busnes ecogyfeillgar modern ar gyfer busnesau bach a chanolig, elusennau a sefydliadau sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol.

Gorfod symud

Tai Ceredigion sy’n datblygu’r safle ar ôl prynu’r adeilad gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ym mis Mawrth 2018.

Bryd hynny, fe adroddodd Clonc360 y llynedd bod rhaid symud Canolfan Deuluol Llanbed a chau‘r Ganolfan Prawf Gyrru oherwydd y cynlluniau.

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Ceredigion fod yr adeilad presennol wedi’i inswleiddio’n wael ac nad oedd y system wresogi yn addas.

“Datblygiad hanfodol bwysig”

“Mae Canolfan Dulais yn ddatblygiad hanfodol bwysig i’r ardal, y mae’r Cyngor yn falch o’i chefnogi,” meddai’r Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio.

“Rwy’n falch iawn bod adeilad o’r radd flaenaf yn dod i Lanbed ar gyfer busnesau cychwynnol a thwf, yn enwedig yn y sector Gofal Cymdeithasol”

Mae Canolfan Dulais yn “flaenoriaeth i’r economi lleol a rhanbarthol”, meddai Ellen ap Gwynn, Arweinydd y cyngor sir tra bod  Steve Jones, Prif Weithredwr Tai Ceredigion yn dweud eu bod nhw’n “edrych ymlaen i ddechrau sgyrsiau gyda darpar denantiaid newydd ar gyfer yr adeilad”.