Busnes bro y dydd – D. L. Williams, Llanbed

Ymateb busnesau bach lleol i heriau’r coronafeirws

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Yn y cyfnod rhyfedd a diflas yma, mae Bro360 yn awyddus i ddefnyddio’r gwefannau straeon lleol i roi sylw i rai o fusnesau bach ein bröydd.

Dyma ferched bishi siop bach-o-bob-peth D. L. Williams ar stryd fawr Llanbed, yn sôn am brysurdeb y diwrnodau cyntaf ers y sôn am hunan-ynysu, ac yn rhoi syniad o be sy’n hedfan mas o’r silff!

 

Ydych chi’n fusnes lleol sy’n cynnig gwasanaeth arbennig yn sgil y Coronafeirws? Gadewch sylw isod ?