Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi bydd campws Llambed a holl gampysau eraill y brifysgol yn ail agor ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21.
Yn gynharach eleni bu rhaid i’r brifysgol drosglwyddo ei holl addysgu ar-lein oherwydd y coronafeirws.
Yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wythnos diwethaf y byddai’r cyfyngiadau yn cael ei llacio rhywfaint yng Nghymru, mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant wedi cadarnhau eu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
Mewn datganiad dywedodd y brifysgol: “Bydd campysau’r Drindod Dewi Sant ar agor ac yn barod i ddechrau addysgu ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd, ac edrychwn ymlaen at groesawu myfyrwyr newydd a’r rhai fydd yn dychwelyd.
“Rydym yn cynllunio patrwm cyflwyno cyfunol sy’n golygu cyfuniad o addysgu ar y campws yn ogystal â darpariaeth ar-lein.
“Gan adeiladu ar ein profiad cyfredol, rydym yn disgwyl darparu’r profiad addysgol gorau posibl i’n myfyrwyr gan integreiddio addysgu wyneb yn wyneb ar y campws â darpariaeth ar-lein.”
Dysgu hyblyg
Cyn COVID-19 roedd y brifysgol wedi rhoi pwyslais ar addysgu mewn grwpiau bach er mwyn cynnig amgylchedd dysgu hyblyg a chreadigol sy’n gwneud y defnydd gorau o amser myfyrwyr.
“Mae’r pandemig wedi cyflymu’r dull gweithredu hwn, ond roedd y trywydd i’w ddilyn eisoes wedi’i benderfynu wrth i ni geisio paratoi ein graddedigion ar gyfer gweithle sy’n newid yn gyson a lle mae’r defnydd o dechnoleg yn chwarae rhan ganolog.”
Lles a diogelwch myfyrwyr a staff
Eglurodd y Brifysgol mae lles a diogelwch ei myfyrwyr a staff yw eu prif flaenoriaeth a bydd mesurau diogelwch yn eu lle ar bob campws.
Ychwanegodd y Brifysgol fod eu cynlluniau yn amodol ar gyfarwyddiadau gan y llywodraethm a bydd y Brifysgol yn rhoi gwybod i fyfyrwyr os bydd unrhyw ddatblygiadau yn effeithio ar gyrsiau.
Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen gwybodaeth coronafeirws y Brifysgol.