Cynhelir digwyddiad cyntaf o’i fath i ddathlu’r Nadolig yn Llanbed yr wythnos nesaf a hynny oherwydd cyfyngiadau Covid19.
Dewch i ymuno a chodi’ch ysbryd yn nathliad Nadolig Cymunedol Llanbed – ‘Carolau yn eich Car’ ar nos Iau 10fed o Ragfyr am 6 o’r gloch. Trefnir y noson gan Linda a Richard Burgess o’r Siambr Fasnach ar y clos o flaen adeilad Gwili Jones.
Bydd y digwyddiad yn ddwyieithog a chymerir ran gan arweinwyr capeli ac eglwysi’r dre gydag anerchiad byr gan y Parch Stuart Bell.
Dywedodd Linda Burgess “Yn ystod cyfnod y clo mawr pan orfodwyd i’r Eglwysi gau yn Llanbed roedd yn ymddangos fel pe bai presenoldeb Duw wedi’i atal ar adeg pan oedd hi’n bwysicach nag erioed estyn allan i’r gymuned.”
“Yn ystod yr Haf, dechreuon ni feddwl am bosibilrwydd y byddai Cristnogion yn gallu dod at ei gilydd mewn ffordd ddiogel i addoli ac felly hauwyd yr had i ystyried Eglwys wrth Yrru.”
”Fe drafodon ni gyda chwpl lleol arall, Gordon a Chris Harvey, a oedd fel ni yn teimlo y byddai’n drist iawn pe na ellid dathlu’r Nadolig yn y gymuned.”
Am nifer o flynyddoedd, bu Linda’n weithredol yn y gwaith o drefnu Noson Nadolig y Siambr Fasnach yn y dref ac felly roedd yn ymddangos fel y ffordd iawn ymlaen iddi i godi’r syniad o ddigwyddiad Carolau yn eich Car yng nghyfarfod nesaf y Siambr.
”Cefais fy nghalonogi gan yr ymateb cadarnhaol,” ychwanegodd Linda “a dechreuais archwilio’r posibiliadau ar unwaith.”
“Gyda chydweithrediad Nigel a Sian, Gwili Jones dechreuon ni wneud cynllun. O gasgliad syml o ychydig o ffrindiau mae hwn wedi dod yn Ddigwyddiad Cymunedol gan gynnwys y Siambr Fasnach, Cyngor Tref ac Eglwysi lleol. Dim ond ar yr 2il Rhagfyr y rhoddwyd cymeradwyaeth yr Awdurdod Lleol ac felly nawr mae gennym wythnos i dynnu popeth at ei gilydd!!”
“Ein gweledigaeth yw dod â phobl o bob oed ac argyhoeddiad ynghyd i ddathlu gwir ystyr y Nadolig mewn blwyddyn pan mae cymaint o angen ag erioed i ddod o hyd i obaith mewn byd heriol.”
Bydd angen cadw lle i’ch car o flaen llaw drwy gysylltu â Linda neu Richard (manylion ar y poster) a diolch iddynt am eu paratoadau ac i’r Siambr Fasnach am noddi a chefnogi. Bydd yn braf cael canu eto hyd yn oed os yw pawb yn ei gar!!