Tasai Sulwen Richards o Ffarmers yn gallu bod yn anifail, byddai’n dewis bod yn gi Jack Russell oherwydd y byddai’n chwareus, ffyddlon ac yn hoffi bwyd!
Dyma un o’r cyfrinachau y mae’n rhannu y rhifyn Mehefin Papur Bro Clonc. Ond mae na dipyn mwy.
Yr eiliad o’r embaras mwyaf iddi oedd wrth archebu Indian a mynd i’w gasglu o Shapla yn Llambed, “nes i ddarganfod mai Shapla yn Bristol o’n i wedi ffonio yn wreiddiol. Doedd Eirwyn, Ceri, Carwen, Hefin na Sion ddim yn hapus wrth iddyn nhw orfod aros dros awr arall am eu bwyd!”
Mae Sulwen yn Gydlynydd Ymgyrchoedd Marchnata ym Mhrifysgol Aberystwyth. Y peth gorau am y swydd yw “Yr her a’r amrywiaeth, does dim un diwrnod yr un peth.” A’r peth gwaethaf am y swydd yw “Y traffig yn Aberystwyth peth cynta’ yn y bore!” Rwy’n siwr y gall sawl un uniaethu â hynny.
Petai hi’n sownd ar ynys anghysbell, byddai’n dewis ei mam i fod yn gwmni “gan bod hi wastad yn gwbod beth i ‘neud mewn picil!”
Ond ble mae hi mwyaf hapus? Am beth y mae hi’n breuddwydio? Ydy hi’n dyfaru rhywbeth? Ar beth y gwnaeth hi orwario arno? Ceir yr ymatebion i gyd yn rhifyn cyfredol Papur Bro Clonc sydd ar gael nawr am ddim ar wefan y papur.
Sulwen a Gethin fel prif swyddogion ifanc Ysgol Bro Pedr.