Clonc Rhagfyr ar werth yn y siopau lleol

Gwirfoddolwyr Clonc yn addasu gweithdrefnau er mwyn sicrhau bod y Papur Bro yn cyrraedd y siopau.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Defnyddiwyd garej Bronwydd, Llanbed i becynnu rhifyn Rhagfyr yn barseli taclus. Diolch yn fawr i Gwynfor Lewis am leoliad sych a hwylus wnaeth sicrhau bod y criw gweithgar yn cadw pellter oddi wrth ei gilydd ac yn gweithio’n ddiogel. Mary Davies, Nia Davies, Dai Dolau Williams a Rhys Bebb Jones fu wrthi’n cyfri, yn labelu ac yn eu clymu’n becynnau i’w dosbarthu.

Mae Clonc Rhagfyr wedi cyrraedd sawl siop ac ar werth am 60c. Bargen sy’n llawn newyddion, erthyglau a lluniau. Cewch wybod am ddathliadau Ysgol Llanllwni yn 150 oed ac ymgyrch Wythnos Gwrth-fwlio Sanau Od Ysgol Bro Pedr. Dewch i adnabod cyfrinachau Heini Thomas, Cwmann a mwy am daith Trafferth Mewn Tafarn Yvonne Davies. Mae’r Nadolig yn derbyn sylw yn nanteithion Cegin Gareth ac yng nghyfeiriadau difyr David Thorne at Castell Nadolig a Ty Christmas yn Enwau Lleoedd Lleol.

Cofiwch hefyd am Glwb Clonc – a yw eich enw ymhlith y rhestr o enillwyr lwcus Rhagfyr? Cewch wybod yn Clonc. Os am gyfle i ennill gwobrau misol hael Clonc, dewch yn aelod! Cysylltwch gydag aelod o’r Bwrdd Busnes (cewch eu manylion ar dudalen 3) i gael gwybod sut i ymuno. Cewch hefyd cymaint o wybodaeth yn rhifyn Rhagfyr am fusnesau lleol sy’n cefnogi’r papur trwy eu hysbysebion. Cefnogwch ein hysbysebwyr – cewch eich synnu beth sydd ar gael yn ein milltir sgwâr!

Diolch yn fawr am gefnogi Clonc eleni gan ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.