Ar 15 fed o Awst 1945, daeth yr Ail Ryfel Byd i ben, a hynny’n dilyn rhyfel erchyll yn y Dwyrain Pell a Siapan.
I gofio’r achlysur yma, cynhaliwyd gwasanaeth coffa ger Cofgolofn Rhyfel Plwyf Pencarreg ym mhentref Ram. Daeth tyrfa luosog ynghyd, gan gadw’r pellter cymdeithasol gofynnol.
Cofiwyd yn arbennig am fachgen lleol a gollodd ei fywyd drwy law’r Japaneaid, sef David Daniel Evans, Y Glyn.
Cymerwyd ef yn garcharor yn China a bu farw ar yr 22ain o Fawrth 1944 yn Osaka Siapan. Gwelir cofnod o’i enw ar y gofgolofn, hefyd ar dabled yng Nhapel Brondeifi ac erbyn hyn mewn gardd goffa yn Yokohama yn Siapan.
Roedd y gwasanaeth yn un teimladwy iawn yng nghofal Parch. Goronwy Evans, a gosododd Cadeirydd y Cyngor Bro, Y Bnr. Tony Lewis dorch o babi coch wrth draed y gofgolofn i gofio am David Daniel Evans, a cadwyd dwy funud o dawelwch am unarddeg o’r gloch.
Diolch i bawb am bresennoli eu hunain yn y gwasanaeth, ac i bawb a gymerodd ran.
Na aed byth yn angof gennym eu haberth a’u dewrder.