Corau newydd a chyfleoedd i bawb

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Bois Ar Wasgar

Heno yn Festri Shiloh Llanbed, bydd cyfarfod i sefydlu côr meibion newydd ar gyfer cystadlu yn Eistedddfod Genedlaethol Ceredigion eleni.

Mae hyn yn digwydd yn dilyn sefydlu sawl côr yn lleol yn ddiweddar gyda’r un bwriad.  Mae côr cymysg newydd yn Nhregaron a’r cylch ac yn Nyffryn Aeron, a Bytholwyrdd sef côr SATB i rai dros 60 oed yn ardal Llanbed.

Breuddwyd Kees Huysmans o Lanbed yw’r côr meibion newydd.  Enillodd Kees y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni yn 2016. Dywedodd Kees “Ymdrech yw hyn i geisio cael côr o fechgyn rhesymol ifanc gyda’r bwriad o gystadlu ar y noson ola gyda’r corau mawr!”

Bydd y cyfarfod am 8 o’r gloch ac estynnir croeso i bawb. Ychwanegodd Kees “Fydd yr eisteddfod ddim yn dod mor agos â hyn i ni am sbel fawr.”  Ac mae’n annog pawb i fanteisio ar y cyfle i gymryd rhan.

Ymarfer cyntaf Bytholwyrdd.

Mae sefydlu Bytholwyrdd dan arweiniad Rhiannon Lewis, Cwmann wedi bod yn llwyddiant mawr.  Mae rhyw 85 aelod ar y llyfrau a daeth 9 aelod newydd i’r ymarfer diwethaf nos Fawrth.  Mae’r côr wedi perfformio hefyd, a hynny oedd yn noson Carol Cerdd a Chân yn Eglwys San Pedr cyn y Nadolig.

Dywedodd Rhiannon mai’r prif amcan yw “mwynhau a chymdeithasu a bod perchen bus pass yn hanfodol.”

Yn ychwanegol i’r cyfleoedd uchod gwahoddir bobl leol i ymuno â Chôr yr Eisteddfod hefyd.  Mae’r Côr yn ail-gychwyn ymarfer yn barod ar gyfer perfformiad arbennig yn y Brifwyl yn Nhregaron ddechrau mis Awst.

‘Dyw hi ddim yn rhy hwyr i ymuno â’r côr, ac os oes gan unrhyw un ddiddordeb, yna mae croeso mawr i chi ddod i’r ymarfer nesaf yn Ysgol Gyfun Aberaeron, nos Lun 20ed Ionawr am 7.30.  Mae’r trefnwyr yn awyddus i recriwtio rhagor o ddynion i ymuno â’r côr er mwyn sicrhau cydbwysedd lleisiol, felly bydd croeso arbennig ar y noson i denoriaid a baswyr o bob rhan o’r dalgylch!

Fflur Dafydd, Griff Lynch a Lewys Wyn sy’n gyfrifol am Lloergan, sy’n cyfuno’r celfyddydau a gwyddoniaeth mewn ffordd ddyfeisgar a newydd.

Gyda gwreiddiau’r stori’n ddwfn yng nghefn gwlad Ceredigion, mae’r Eisteddfod yn awyddus i ddenu pobl o bob rhan o’r sir i fod yn rhan o’r cyfanwaith cerddorol a geiriol amlgyfrwng hwn, wedi’i ysbrydoli gan seryddiaeth a’r ardal leol.

Trefnir y gerddoriaeth gan Rhys Taylor, ac mae Hefin Jones yn ddylunydd cyfranogi creadigol ar y prosiect.  Rhys Taylor sydd hefyd yn arwain yr ymarferion yn Ysgol Gyfun Aberaeron.

Ond cyn i ymarferion côr Lloergan ail-gychwyn, mae cyfle hefyd i ymuno â chôr newydd arall, Côr Cymanfa Ganu’r Eisteddfod.  Bydd yr ymarferion yma hefyd yn cael eu cynnal yn Ysgol Gyfun Aberaeron ar nos Lun am 7.30, gyda’r cyfle cyntaf i ddod ynghyd nos Lun nesaf, 13eg Ionawr.  Delyth Hopkin Evans sy’n arwain y côr hwn, ac mae croeso cynnes i aelodau o bob oed.

Meddai Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod, “Rydym yn gobeithio y bydd nifer fawr o aelodau côr Lloergan hefyd yn awyddus i ymuno gyda chôr y Gymanfa.  Mae cael canu ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod yr Eisteddfod yn gyfle gwych, ac rydym yn gobeithio y daw nifer dda iawn o gantorion atom i fod yn rhan o’r hwyl.

“Mae ‘na draddodiad arbennig o ganu corawl ar draws y dalgylch, ac rydan ni’n awyddus i ddenu cantorion profiadol – a newydd – i ymuno gyda ni dros y misoedd nesaf.”