Tomos Williams o Lanbed sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc y mis hwn. Mae e’n gweithio i fusnes y teulu sef Gwasanaethau Coed Llambed.
Y peth gorau am ei swydd yw “Gweithio ar hen goed a gweithio mewn llefydd pert ac anghysbell” ond y peth gwaethaf am y swydd yn ôl Tomos yw’r glaw!
“Cred beth ti’n gweld a hanner beth ti’n clywed” oedd y cyngor gorau a roddwyd iddo. Wrth ofyn y cwestiwn pwy sy’n ysbrydoliaeth iddo, atebodd Tomos “Fy nau dad-cu, yn dal i weithio yn eu wythdegau.”
Tasai Tomos yn fisged byddai’n Chocolate Digestive, clasur y gallwch wastad ddibynnu arno. Yr arferion gwael sydd ganddo yw cwympo i gysgu yn unrhyw le ar ôl gormod o gwrw!
Beth oedd y peth mwyaf rhamantaidd a wnaeth rhywun iddo? Pa mor wyrdd yw e? Pa fath o berson sy’n mynd o dan ei groen? Beth yw’r cludfwyd o’i ddewis. Gallwch ddarganfod y cyfan yn rhifyn Tachwedd Papur Bro Clonc sydd yn y siopau lleol nawr.