Cred beth ti’n gweld a hanner beth ti’n clywed

Ymateb Tom Trees i gwestiynau ‘Cadwyn Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IMG_7141

Tomos Williams

Tomos Williams o Lanbed sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc y mis hwn.  Mae e’n gweithio i fusnes y teulu sef Gwasanaethau Coed Llambed.

Y peth gorau am ei swydd yw “Gweithio ar hen goed a gweithio mewn llefydd pert ac anghysbell” ond y peth gwaethaf am y swydd yn ôl Tomos yw’r glaw!

“Cred beth ti’n gweld a hanner beth ti’n clywed” oedd y cyngor gorau a roddwyd iddo.  Wrth ofyn y cwestiwn pwy sy’n ysbrydoliaeth iddo, atebodd Tomos “Fy nau dad-cu, yn dal i weithio yn eu wythdegau.”

Tasai Tomos yn fisged byddai’n Chocolate Digestive, clasur y gallwch wastad ddibynnu arno.  Yr arferion gwael sydd ganddo yw cwympo i gysgu yn unrhyw le ar ôl gormod o gwrw!

Beth oedd y peth mwyaf rhamantaidd a wnaeth rhywun iddo?  Pa mor wyrdd yw e?  Pa fath o berson sy’n mynd o dan ei groen?  Beth yw’r cludfwyd o’i ddewis.  Gallwch ddarganfod y cyfan yn rhifyn Tachwedd Papur Bro Clonc sydd yn y siopau lleol nawr.