gan
Ohebydd Golwg360
Mae Ysgol Gynradd Dihewyd ar gau heddiw yn dilyn achos o’r coronafeirws o fewn yr ysgol.
Gwneir hynny, er mwyn galluogi i bob cyswllt gael eu hadnabod ac ar gyfer glanhau trylwyr.
Gofynnir i un Grŵp Cyswllt i hunanynysu am 14 diwrnod er mwyn leihau lledaeniad posibl y firws.
Bydd yr ysgol yn ail-agor yfory ar gyfer yr holl ddisgyblion a staff nad ydynt wedi’u hadnabod fel cysylltiadau.
Mae’r Ysgol wedi cysylltu â’r holl rieni.
Mae’r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw’n datblygu unrhyw un o’r symptomau, sef:
- tymheredd uchel
- peswch parhaus newydd
- colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.
Dylai rhieni fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r ffliw fel arfer.