Cwrdd Cymundeb Rhithiol Cyntaf

Anne Thorne a Cyril Davies.

Bethel Parc-y-rhos
gan Bethel Parc-y-rhos

Cwrdd Cymundeb rhithiol cyntaf Bethel Parc-y-rhos ar y 29ain Tachwedd 2020 dros Zoom dan ofal Anne Thorne a Cyril Davies yn gweinyddu’r cymun. Yn ystod yr oedfa, cafwyd ychydig o hanes tri emynydd: Dafydd William, Pontarddulais; David Charles, Caerfyrddin a Thomas Lewis, Talyllychau. Yn cymryd rhan oedd Anne Thorne, Morfudd Slaymaker, David Thorne, Cyril Davies ac Elma Phillips yn cyfeilio.