Hwb Cydnerthedd Llanbedr Pont Steffan yn holi am eich barn

Llenwch holiadur ar-lein er mwyn cyfrannu at gydnerthedd lleol.

gan Julia Lim

Cyfarfod ‘Beth yw cydnerthedd?’ @UWTSD

Mae Hwb Cydnerthedd Llanbedr Pont Steffan yn dymuno gofyn am eich barn ymglyn â chydnerthedd.

Yn dilyn erthygl gan Rhys Bebb Jones yn y rhifyn Gorffennaf Papur Bro Clonc am y noson “Beth Yw Cydnerthedd?”, dw i eisiau rhannu gwybodaeth am holiadur dwyieithog ar-lein. Bydd yr holiadur yn gyfle i ystyried ein profiadau yn ystod y cyfnod clo.

Dw i’n aelod o Hwb Cydnerthedd Llanbedr Pont Steffan / Lampeter Resilience Hub, hwb newydd a sefydlwyd i weithio gyda Phrifysgol Cymru Drindod Dewi Sant er mwyn creu canolfan a chyrsiau newydd ar gampus Llanbed.

Nod y cyrsiau yw rhoi cyfle i ddysgu sgiliau sydd eu hangen ar hyn o bryd mewn amser o newid yn yr hinsawdd bresennol ynghyd â newdiadau pwysig eraill. Rydym yn gobeithio hefyd rhoi cymorth i waith lleol arall tuag at wytnwch lleol.

Dyma ddolen i’r holiadur .  Baswn i’n hapus iawn pe tasech chi’n gallu rhannu eich barn a’ch profiadau. Bydd y ddolen yn fyw tan 24ain o Awst. Cysylltwch â ni hefyd ar ebost lampeterrh@gmail.com .

Dw i’n ysgrifennu fel dysgwyr Cymraeg hefyd felly maddeuwch fy nghamgymeriadau, os gwelwch yn dda!