Nawr bo’ fi adre o’r brifysgol a bod haf hir o fy mlaen i rwy’n meddwl neud rhywbeth gwerth chweil gyda fy amser trwy helpu pobl i ddysgu Arwyddiaith.
Bydd yn gyfle i ddysgu mewn ffordd hwylus a didrafferth. Felly, os oes gennych ddiddordeb, darllenwch y darn isod a ma’ croeso i chi gysylltu â fi am ragor o wybodaeth.
Fel ma rhai ohonoch chi’n gwbod, yr unig ffordd rwy’n gallu siarad â Dadcu a Mamgu yw trwy sign language am fod y ddau’n fud ac yn fyddar gyda mamgu hefyd yn ddall.
Oherwydd hyn, rwyf wedi bod yn ei ddefnyddio fel ffordd o gyfathrebu ers i mi fod yn 4 blwydd oed. Dwi ddim hyd yn oed yn cofio gorfod ei ddysgu a ma’ fe’n rhan hanfodol i fywyd ein teulu ni, a miloedd o deuluoedd eraill hefyd.
Yn ddiweddar, wrth ddechrau meddwl am yrfa, es ati i edrych ar-lein i gael tystysgrif swyddogol i ddangos fy ngallu i wneud BSL (British sign language). Ond, yn anffodus, doedd y broses ddim yn un hawdd, yn enwedig i’r rhai sy’n dechrau dysgu, am 2 reswm… Roedd naill ai opsiwn i wneud cwrs ar-lein a dysgu’ch hunan (sy’n golygu nad oes o reidrwydd gyda chi rywun i ymarfer, sydd, yn fy marn i, yn hanfodol wrth ddysgu iaith newydd, yn enwedig BSL!) neu, opsiwn arall oedd i dalu’n ddrud am gwrs gydag arweiniad proffesiynol.
Felly, rwy’n barod i gynnig cymorth i unrhyw un sydd wrthi’n barod, sydd â diddordeb i ddysgu neu sydd eisiau gwybod mwy.
Bydda i’n creu cyfres o fideos ar Facebook a hefyd cynnal sesiynnau zoom er mwyn helpu chi i ymarfer. Sdim ‘da fi cymhwyster i ddysgu’n broffesiynol ond cyfle yw hyn i ddysgu mewn ffordd hwylus gyda’r opsiwn o wneud hynny’n Gymraeg hefyd.
Rwy’n gwbod mwy na digon i allu dysgu chi shwt i siarad â rhywun sy’n fud neu’n fyddar. Wir i chi, mae e’n haws na chi’n meddwl ac mewn llai na mis byddwch chi’n gwybod digon i allu cynnal sgwrs.
Chi byth yn gwbod pryd fyddwch chi angen y sgil hyn, boed yn eich bywyd cymdeithasol neu’n broffesiynol. Mae e fel dysgu iaith newydd ond llawer haws (os chi’n gwbod y wyddor chi hanner ffordd ‘na yn barod!) a llawer mwy gwerthfawr!
I bobl mud a byddar, dyma eu hunig iaith a’u hunig ffordd o gyfathrebu felly mae gallu siarad tamaid â rhywun mewn BSL yn meddwl shwd gyment iddyn nhw a ma’ gweld y wên ar wyneb Mamgu a Dadcu pan ma’ rhywun yn ymdrechu i siarad â nhw yn profi gwerth yr iaith hon!
Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â fi ar Facebook a pheidiwch â bod ofn rhoi cynnig arni.