gan
Ohebydd Golwg360
Mae gofyniad wedi cael ei gyflwyno i dafarn yn Llanbedr Pont Steffan wneud gwelliannau i ddiogelu iechyd a llesiant y cyhoedd, fel rhan o reoliadau’r coronafeirws.
Mae tafarn ‘The Ivy Bush Inn’ wedi cael rhybudd i wella eu mesurau, er mwyn lleihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws.
Daw hynny, yn dilyn ymweliad gan Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Sir Ceredigion.
Yn sgil y gwelliannau, mae’n rhaid i’r dafarn:
- sicrhau y cedwir pellter o 2 fetr a pharchu nad oes hawl gan bobl nad ydynt o’r un aelwyd ymgynnull mewn grwpiau o fwy na 4 person
- sicrhau bod rhywun yn rheoli’r mynediad ac yn nodi terfyn amser ar gyfer arhosiad cwsmeriaid
- cyflwyno mesurau i sicrhau bod cwsmeriaid yn eistedd unrhyw le heblaw am wrth y bar pan fyddant yn archebu, bwyta neu’n cael eu gweini
- ynghyd â chasglu gwybodaeth gyswllt fanwl gan bob cwsmer
Bydd yn rhaid i’r mesurau hyn gael eu cyflwyno erbyn 14:00 ar 20 Tachwedd 2020.
Anogir unrhyw fusnes nad yw’n sicr o’i gyfrifoldebau i edrych ar wefan Llywodraeth Cymru