Gohiriwyd talu am barcio ym meysydd parcio talu ac arddangos Cyngor Sir Ceredigion ar gychwyn cyfnod clo cenedlaethol y COVID-19 ar ddiwedd mis Mawrth 2020.
Bydd taliadau heb arian parod yn cael eu cyflwyno ym mwyafrif o feysydd parcio talu ac arddangos o 01 Rhagfyr 2020. Bydd cyflwyno’r ffordd yma o dalu yn lleihau’r teithio sy’n ofynnol i wasanaethu a gwagio’n rheolaidd y peiriannau arian parod drwy hefyd lleihau’r risg o drosglwyddo COVID-19 sy’n gysylltiedig â thrin a thrafod arian parod.
Bydd taliadau di-arian yn cael eu cyflwyno yn y meysydd parcio canlynol o 1 Ragfyr 2020:
• Y Cwmins, Llanbedr Pont Steffan
• Stryd y Farchnad, Llanbedr Pont Steffan
• Y Rwceri, Llanbedr Pont Steffan
• Ffordd y Gaer, Aberaeron
• Traeth y Gogledd, Aberaeron
• Maesyrafon, Aberystwyth
• Coedlan y Parc Isaf / Coedlan y Parc, Aberystwyth
• Ffordd y Gogledd, Aberystwyth
• Y Baddondy, Aberteifi
• Maes y Ffair, Aberteifi
• Sgwâr Cae Gwyrdd, Aberteifi
• Mwldan, Aberteifi
• Stryd y Cei, Aberteifi
Bydd aelodau o’r cyhoedd yn dal i allu talu am eu tocynnau tymor parcio (3+ mis) ar-lein, dros y ffôn neu drwy gopi papur gyda siec.
Os oes peiriant di-arian ar waith yn y maes parcio bydd angen i gwsmeriaid dalu i barcio. Gellir talu dim ond gyda cherdyn (sglodyn a phin a digyffwrdd) a systemau talu digyffwrdd sy’n cyd-fynd â ffonau clyfar/watsys clyfar dethol e.e. Apple Pay/Google Pay. Ni fydd dewis talu drwy arian parod.
Bydd taliadau di-arian yn cael eu cyflwyno yn y meysydd parcio tymhorol canlynol o 1 Mawrth 2021:
• Heol yr Eglwys a Stryd y Cware, Cei Newydd
• Promenâd Newydd, Aberystwyth
• Traeth y De, Aberaeron
Rydym yn parhau i beidio â chodi tâl am y tro yn y meysydd yma:
• Rhes Gloster, Aberteifi
• Porth, Llandysul
• Iard y Talbot, Tregaron
Cysylltir â’r sawl sydd â thocynnau tymor cymwys a hynny mewn perthynas â’u tocynnau tymor presennol. Tan yr amser hwnnw, mae eu tocynnau tymor yn parhau i fod yn ddilys i’w defnyddio.
Bydd parcio am ddim yn cael ei ddarparu ar ddydd Sadwrn 05, 12 a 19 Rhagfyr 2020 ym mhob maes parcio talu ac arddangos y Cyngor.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Cyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01545 570 881 neu clic@ceredigion.gov.uk.