Cymdogion Llanbed yn creu cynlluniau i helpu ei gilydd

Rhestr o’r cynlluniau cyfaill a chymorth yn yr ardal.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mewn cyfnod o ansicrwydd a newid, mae grwpiau o bobol mewn sawl cymdogaeth wedi creu cynlluniau lleol i helpu’r rhai mewn angen.

Syniad y cynlluniau cyfaill yw creu tîm o wirfoddolwyr fydd ar gael i hôl negeseuon (bwyd, presgripsiwn a nwyddau hanfodol) ar ran pobol sy’n sownd yn eu cartrefi’n hunanynysu.

Mae’n un o’r enghreifftiau gorau o gymdogaethau ar lefel pentref, tref neu blwyf yn ymateb yn gadarnhaol mewn sefyllfa o angen.

Dyma restr o gynlluniau o’r fath yn Llanbed.

Rhannwch y rhestr a’r wybodaeth â phobl yn eich bro, yn enwedig rhai sydd ddim ar Facebook.

A chofiwch ychwanegu manylion unrhyw gynlluniau eraill yn y sylwadau isod.

 

Dyma fanylion rhai Cronfai cynlluniau cymorth yng ngweddill Ceredigion

Os ydych chi, neu rywun yn eich bro, eisiau cymorth y Cyngor dylech gysylltu â’ch Cynghorydd Sir neu swyddfa’r Cyngor Sir ar 01545 570881.