Disgyblion Ysgol Bro Pedr i hunanynysu

Daw hynny yn dilyn achos o’r coronafeirws yn yr ysgol

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Mae’n rhaid i ddisgyblion Blynyddoedd 12 ac 13 Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan hunanynysu am 14 diwrnod yn dilyn achos o’r coronafeirws yn yr ysgol.
Mae’n rhaid i’r Grŵp Cyswllt a rhai aelodau staff aros gartref am 14 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a’r gymuned ehangach.
Yn ogystal, cysylltwyd â disgyblion sy’n teithio ar yr un bws â’r achos positif a gofynnwyd iddynt hunanynysu am 14 diwrnod hefyd fel mesur rhagofalus.
Daw’r disgyblion hyn o fwy nag un Grŵp Blwyddyn o Ysgol Bro Pedr.
Mae’r Ysgol wedi cysylltu â’r holl rieni a chynghorir pob rhiant fod yn wyliadwrus ac i anfon eu plant am brawf os ydyn nhw’n datblygu unrhyw un o’r symptomau, sef:
  • tymheredd uchel
  • peswch parhaus newydd
  • colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.
Dylai rhieni fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r ffliw fel arfer.