Gyda chwmnïau mawr yn cynnig postio nwyddau am ddim i gwsmeriaid sy’n prynu ganddyn nhw tros y We, mae yna alw am helpu busnesau bach lleol i allu cystadlu.
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Ceredigion eisiau i Lywodraeth Brydain dalu costau postio busnesau bach dros y Nadolig.
Byddai hynny, meddai’r blaid, yn annog pobli archebu nwyddau ar-lein gan fusnesau lleol, heb orfod poeni am dalu am y postio.
Mae Llefarydd y Trysorlys y Democratiaid Rhyddfrydol, Christine Jardine, wedi ysgrifennu at y Canghellor Rishi Sunak yn galw arno i fabwysiadu’r syniad.
“Canol ein trefi’n dawel”
“Mae busnesau bach ar draws Ceredigion wedi bod yn becso am fisoedd am sut i gadw fynd,” meddai Cadan ap Tomos, Ymgeisydd Senedd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yng Ngheredigion.
“Mae’r Nadolig yn adeg enillfawr i nifer ohonynt, ond mae’r cyfyngiadau Coronafeirws yn golygu bod canol ein trefi’n dawel iawn.”
Dywedodd bod cynigion postio am ddim cwmnïau mawr y We yn peryglu dyfodol ein heconomi leol.”
Mae’n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gamu fewn a sicrhau amodau teg, er mwyn amddiffyn yr ystod bywiog o fusnesau bach sy’n asgwrn cefn i economi leol Ceredigion,” meddai.
Efelychu cefnogaeth ym maes lletygarwch
“Dros yr haf, lansiodd y Canghellor ymgyrchi gefnogi’r sector lletygarwch”, eglurodd Jane Dodds, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
“Nawr rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fynd ymhellach i gefnogi busnesau bach dros gyfnod y Nadolig.”
Ffederasiwn Busnesau Bach yn croesawu’r cynllun
“Dyma yw’r fath o syniad creadigol sy’n gallu rhoi hwb i fusnesau bach a rhoi chwarae teg iddynt,” meddai cadeirydd y Deyrnas Unedig ar gyfer Ffederasiwn Busnesau Bach, Mike Cherry.
“Mae’n rhaid i ni wneud pob dim y gallwn i helpu ein siopau bach, annibynnol.
“Dyma fydd yr adeg Nadolig pwysicaf erioed ar gyfer ein heconomi, a gellir fod yn fater llwyddo-neu-fethu i rai o’n busnesau bach.
“Dyna pam mae’n rhaid i ni roi pob gewyn ar waith i’w helpu i oroesi hyd ddiwedd 2020 ac ymhellach.”