Mae Grŵp garddio cymunedol Silian yn helpu i wyrdroi dirywiad byd natur diolch i gynllun gardd newydd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus.
Mae ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ yn cynnig pecynnau am ddim i gymunedau yn cynnwys yr holl blanhigion, offer a deunyddiau sydd eu hangen i greu gardd fach.
Bydd Grŵp garddio cymunedol Silian yn creu gardd pili pala ar ddarn o dir ‘y triongl’ o flaen yr hen Eglwys yn Silian. Mae’r pecyn pili pala yn cynnwys nifer o blanhigion flodau gwyllt, rhyw dair coeden brodorol a bylbiau lili wen fach a chlychau’r gog. Mi fydd yna drelis ar gyfer y blodyn gwyddfid (neu llaeth y gaseg), rhosyn ci a chlematis gwyllt, yn ogystal â focs pwrpasol o ryw dau fedr i greu darn lafant. Hefyd, mae gwesty ar gyfer chwilod a blwch hadau ar gyfer bwydo adar bach a phecyn o hadau blodau gwyllt.
Dywedodd cadeirydd y grŵp Eryl Evans, ei fod yn gyfle gwych i dyfu blodau gwyllt a fydd yn denu bywyd natur ac yn creu atynfa lliwgar i bob math o bili pala, chwiliod a gwenyn. Rydym yn gobeithio ei fydd yn help i’r amgylchedd ac yn lecyn prydferth i bobl i eistedd a gwylio byd natur ar ei orau ar gyrion eu stepen drws.
Mae’r pecyn harddwch natur yma ar gael i unrhyw grŵp neu bentref sydd am greu cornel bach tebyg eu hun. Os oes gynnych rhyw ddarn o dir sbar, neu gornel fach yng nghanol y pentref,bydden yn annog cymunedau i gysylltu ag elusen amgylcheddol Cadw’ch Cymru’n Daclus i geisio cael dewis o dri phecyn yn rhad ac am ddim. Mae’n broses syml iawn. Rydym yn ffodus iawn o fod wedi cael cefnogaeth gan Cyngor Bro Cymuned Llangybi. Mae yn gyfle i phobl sydd yn byw o fewn y pentre i ddod at ei gilydd i gyd weithio.
Dywedodd Louise Tambini, Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus: “Fwy nag erioed, mae pobl yn cydnabod gwerth byd natur i iechyd a lles ein cymunedau. Rydyn ni wrth ein boddau bod grwpiau, fel grŵp garddio cynunedol Silian, bellach yn cael y cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn gyda Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Rydyn ni’n ymwybodol bod llawer o ardaloedd eraill a allai elwa o’r cynllun ac rydyn ni’n annog pobl i gymryd rhan tra bo pecynnau am ddim ar gael.”
Mae’r cynllun yn rhan o gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ehangach gwerth £5m gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i gaffael, adfer a gwella natur ‘ar garreg eich drws’.
Mae pecynnau’n dal ar gael i grwpiau a mudiadau cymunedol drwy Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. I wneud cais ewch i wefan Cadwch Cymru’n Daclus.