Pum gorymdaith Gŵyl Dewi mewn un sir!

Dathliadau Gŵyl Dewi Ceredigion yn “gyfle i ddathlu mewn môr o liw a chân yng nghanol ein trefi.”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Ymhlith amryw o ddigwyddiadau ar draws Ceredigion, mae dim llai na phum gorymdaith wedi’u trefnu eleni yn nhrefi Llanbedr Pont Steffan, Aberystwyth, Tregaron, Aberteifi ac Aberaeron.

Mae gorymdeithiau Gŵyl Dewi wedi dod yn fwyfwy cyffredin ledled y wlad, wrth i bobol o bob oed ddod at ei gilydd er mwyn dathlu diwrnod ein Nawddsant a’n hunaniaeth Gymreig.

“Pwrpas y digwyddiadau yw tynnu cymaint o bobl yr ardal a phosib at ei gilydd er mwyn dathlu diwrnod Nawddsant Cenedlaethol Cymru, ein hunaniaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg mewn môr o liw a chân yng nghanol ein trefi,”

meddai’r Cynghorydd, Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion.

Llanbedr Pont Steffan

Nos Wener 28 Chwefror, 19:30
Poster Gig Gŵyl Dewi Llambed
Dydd Sadwrn 29 Chwefror, 11:00
Poster Parêd Gŵyl Dewi Llanbedr Pont Steffan

Bydd gorymdaith Llanbed yn cwrdd yn Ysgol Bro Pedr, a’r arweinwyr eleni fydd Annwen Button a Maer y Dref, Rob Phillips.

Dywedodd Rob Phillips bod y parêd, sydd yn ei thrydedd flwyddyn eleni, yn un o brif ddigwyddiadau’r dref, ac mae’n falch o’r ymdrech i gynnwys pobol ifanc yn y dathlu:

“Mae’n gyfle i bawb o bob oed ddod at ei gilydd i ddathlu ein Cymreictod.

“Gyda chefnogaeth Cyngor y Dref mae’r pwyllgor hefyd wedi trefnu gig yn Neuadd Victoria eleni er mwyn cynnig digwyddiad Cymraeg i bobl ifanc lleol fel rhan o’r dathliadau.”

Aberystwyth

Dydd Sadwrn 29 Chwefror, 13:00
Poster Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth

Yn ogystal a’r parêd a’r seremoni arferol, bydd gig gwerin am ddim yn cael ei gynnal yn nhafarn Y Llew Du eleni. Bydd oedfa i ddilyn yn y Morlan fore Sul, 1 Mawrth.

Yn ôl Siôn Jobbins, Cadeirydd Parêd Aberystwyth,

“Mae gorymdeithiau yn ffordd bwysig o ddangos hyder yn yr iaith a’r traddodiadau Cymreig a hefyd o gynnal undod y gymuned Gymraeg ei hiaith.”

Mae’n credu bod gwerth mewn dewis pobol leol i’w hanrhydeddu a diolch iddynt hefyd:

“Mae cael ‘Tywysydd’ y Parêd yn Aberystwyth – Meirion Appleton yw’r Tywysydd eleni – yn ffordd glir ac effeithiol o ddiolch a dangos ein bod ni fel trigolion Aberystwyth yn gwerthfawrogi ymdrechion pobl yn yr ardal dros yr iaith dros ddegawdau. Mae hynny’n bwysig.”

Gallwch ddarllen hanes Meirion Appleton, yr hyfforddwr a’r trefnydd pêl-droed a fydd yn arwain Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth, yn y y stori yma gan Siôn Jobbins ar BroAber360:

Meirion Appleton

Meirion Appleton – Tywysydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth 2020

Siôn Jobbins

Meirion Appleton i arwain Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth 2020

Tregaron

Dydd Gwener 28 Chwefror, 14:00
Poster Parêd Gŵyl Dewi Tregaron

Ar drothwy ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Thregaron, fe fydd Parêd Gŵyl Dewi hefyd yn cael ei gynnal ar hyd strydoedd y dref eleni.

Bydd yr orymdaith yn dechrau y tu fas i Ysgol Henry Richard ac yna’n symud i sgwâr y dref o flaen cerflun Henry Richard, lle bydd seremoni ac adloniant ysgafn.

“Mae’r digwyddiad yma yn gyfle i ni ddathlu dydd ein Nawddsant ac i ymfalchïo yn ein treftadaeth a diwylliant.”

Meddai Cynghorydd Sir Tregaron, Catherine Hughes.

Dywedodd Dorian Pugh, Prifathro Ysgol Henry Richard, ei fod ef a disgyblion yr ysgol yn edrych ymlaen at yr orymdaith.

“Rydym wir yn edrych ymlaen at y Parêd Gŵyl Dewi lle bydd ein disgyblion yn cofio ac yn dathlu ein Nawddsant Cenedlaethol. Gobeithir gweld y gymuned yn dod at i gilydd ar gyfer dathliad.”

 

Aberaeron

Dydd Llun 2 Mawrth, 9:30
Aberaeron

Yr orymdaith hynaf?

Sefydlwyd Gorymdaith Gŵyl Dewi Aberaeron gan y diweddar Alun Williams, cyn-bennaeth Ysgol Gynradd Aberaeron, yn 1979 ac mae’n ddigon posib mai dyma’r orymdaith hynaf o’i math yng Nghymru.

Dros 40 mlynedd ers yr orymdaith gyntaf, Ysgol Gynradd Aberaeron sydd yn parhau i drefnu’r orymdaith ac eleni maent yn cydweithio gydag Ysgol Gyfun Aberaeron a Cered, y Fenter Iaith leol, i ddatblygu’r digwyddiad.

O ganlyniad, bydd Gorymdaith Gŵyl Dewi Aberaeron 2020 ychydig yn wahanol i’r arfer.

Bydd y ddwy ysgol yn gorymdeithio i Sgwâr Alban lle bydd y ddwy yn uno i gyd-gerdded i faes parcio Pwllcam, cyn cynnal seremoni fer i gloi’r digwyddiad.

Dywedodd Mair Jones,  Pennaeth dros Dro Ysgol Gynradd Aberaeron, bod hwn yn ddiwrnod pwysig yng nghalendr yr ysgol a’r dref.

“Mae pared Gŵyl Dewi wedi bod yn digwydd yn nhref Aberaeron ers canol y 70au, pan trefnwyd bod plant yr Ysgol Gynradd yn mynd o gwmpas y dref yn y bore.

“Mae Aelodau Pwyllgor Cymreictod yr ysgol Gynradd wedi cydweithio gyda Cered i rannu pamffledi yn siopau a busnesau’r dref yn eu hannog i chwarae cerddoriaeth Gymraeg, i arddangos baneri ac i addurno eu ffenestri yn bwrpasol.

“Mae croeso cynnes i drigolion a chymdeithasau lleol i ymuno a ni. Mae aelodau Cyngor y Dref ac Elin Jones A.S. hefyd yn rhan o’r orymdaith.”

Aberteifi

Dydd Sadwrn 29 Chwefror, 10:30
Poster Parêd Gŵyl Dewi Aberteifi
Llun – Parêd Gŵyl Dewi Aberteifi

Yn dilyn llwyddiant Parêd Gŵyl Dewi cyntaf Aberteifi yn 2019, mae gorymdaith wedi ei threfnu yn y dref eto eleni.

Bydd yr orymdaith, sydd wedi ei threfnu gan Cered a Theatr Byd Bychan, yn ymgynnull yn Neuadd y Dref, gan orffen gyda seremoni arbennig yng Nghastell Aberteifi dan ofal y Prifardd Ceri Wyn Jones.

 

Ydyn ni wedi colli unrhyw ddigwyddiadau? Rhowch wybod yn y sylwadau isod ?