Gosod diffibrileiddiwr tu allan i Camfan

Diffibrileiddwr arall yn cael ei osod yn Llambed

Ann Bowen Morgan
gan Ann Bowen Morgan

Yn dilyn cynllun i godi arian gan gleientiaid Canolfan Camfan a chyda cymorth y Cynghorydd Emma Wood, gwahoddwyd Cyngor tref Llambed i ymuno yn y dasg o sicrhau diffibrileiddiwr ar gyfer ardal Heol y Porthmyn Llambed. Trefnwyd y cynllun gan Y Cynghorydd Ann Morgan ar y cyd gyda Janice Thomas o Dai Ceredigion. Cafwyd rhodd gan gwmni T. R. Jones (Rhydaman) oedd yn gweithio i Dai Ceredigion ar ddatblygiad yn Dôl Dalis ac sydd nawr yn gweithio ar ddatblygiad y ganolfan fusnes ar safle hen Ganolfan Dulais yn y dre.

Yn y llun gwelir Gary Jones o gwmni T. R. Jones, Maer y dref Rob Phillips, Llŷr Edwards, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo Tai Ceredigion, Y Cynghorydd Ann Morgan a Louise Jenkins, rheolwr Camfan.

Mae Camfan sy’n ganolfan gyda chefnogaeth Elusen POBL a’r Cyngor tref yn ddiolchgar iawn am y rhodd a gosodwyd blwch pwrpasol ar gyfer y diffibrileiddiwr gan Dai Ceredigion y tu allan i Ganolfan Camfan ar Heol y Porthmyn sydd ar gael 24 awr y dydd. Bydd y Cyngor Tref yn cefnogi ambiwlans St John’s i oruchwylio gwasanaeth i’r diffibrileiddiwr.

Canolfan i roi cymorth i bobl fregus yr ardal yw Camfan. Buont yn gefnogaeth arbennig i unigolion yn ystod y cyfnod clo.

O ran gwybodaeth ceir diffibrileiddiwr eraill yn y Coleg, y Clwb Rygbi, Siop y Premier, y pwll nofio a’r Clwb Bowlio.