Llambed a Llanybydder yn rhan o gân Hiraeth Fydd am y 701

Ydych chi’n cofio teithio ar fws y 701 rhwng Aberystwyth a Chaerdydd? Mae Bwca yn bendant yn cofio!

Bwca (@bwcacymru)
gan Bwca (@bwcacymru)

Steff Rees a Ffion Evans o Bwca yn aros am y 701!

Bwca yn rhyddhau “Hiraeth Fydd (701)”

Bwca yw’r enw ar brosiect cerddorol Steff Rees a’i griw o gerddorion dawnus o Aberystwyth. Yn gynharach eleni fe wnaethon nhw rhyddhau cân o’r enw Tregaron er mwyn helpu cynnal cyffro’r Eisteddfod tan 2021.

Ar ddydd Gwener Mehefin 5ed fe wnaeth Bwca ryddhau eu ail sengl o’r flwyddyn sef “Hiraeth Fydd (701)” sydd yn adrodd hanes teithiau Steff trwy ardal Clonc dan olau’r lleuad dlos.

Daeth gwasanaeth y 701 i ben yn Awst 2016 yn dilyn trafferthion y cwmni oedd yn rhedeg y gwasanaeth ar y pryd sef Lewis’ Coaches. Bellach wrth gwrs, mae’r llwybr yn cael ei wasanaethu gan goets tipyn fwy modern y T1C ond dal i hiraethu y mae Bwca am yr hen siarabáng.

Atgofion Steff o’r 701

Pan dechreues i fel myfyriwr yn Aberystwyth yn 2010 doedd Mam ddim yn awyddus i mi fynd â’r car lan ‘da fi achos fod dim angen car arna i ac yn bwysicach oll bydde rhywbeth yn digwydd i’r car. Gyda Dad yn amenio hyn gan bregethu fod car segur yn wael i’r batri.  Roedd rhaid i mi gyfarwyddo gyda theithio ar y bws pan yn dychwelyd i Bontyberem am benwythnos bob hyn a hyn.

Chwarae teg i fy rhieni, cefais fy ngwyliau tramor cyntaf gyda nhw ar wyliau bws Wallace Arnold pan yn iau ac nid mewn bws cyffredin chwaith ond yn y Grand Tourer (wwwww!).

Rwy’n cofio troelli lan heolydd enwog Awstria fel y Grossglockner fel tase fi oedd Kaiser Frans Josef ei hun. Ac rwy’n cofio mynd i Lago di Como yn Yr Eidal a chamu o’r goets fawr fel rial Michael Portillo mewn i fad bach oedd yn gwibio heibio villa George Clooney draw i bentref prydferth Bellaggio.

Digon teg yw dweud nad Grand Tourer oedd y 701. Doedd yna ddim seti lledr beige gyda digon o le i’ch coesau, doedd yna ddim air-con a doedd yna ddim lolfa fach yn y gwt gyda pheiriant diodydd poeth.

Dwi’n cofio unwaith roedd yna ddŵr glaw yn dod trwy’r ffans a glwchu un o fy nghyd-deithwyr. Er hyn pan yn sefyllan ar y stryd yn aros am y bws ger siop Eirllin Cross Hands ar rhyw nos Sul oer ym mis Tachwedd roedd unrhywbeth yn grand!

Yn ogystal â bod yn hwyr bron pob tro un o nodweddion fwyaf cofiadwy y 701 oedd y gyrrwr oedd yn fyr ei amynedd a gweud y lleiaf! Yn drewi o fwg ac yn berchen ar acen oedd yn fy atgoffa o un o ffyddloniaid y Nag’s Head yn Peckham.

Dyma i chi gymeriad oedd yn fwy na pharod i rannu ei farn am faterion cyfoes. Os bydde fe wedi bod yn siaradwr Cymraeg, mae’n siŵr ‘da fi bydde fe’n neud gwd job fel un o wybodusion Pawb a’i Farn.

Gwna i fyth anghofio’r profiad o glywed e’n pasio rhyw hen berson ofnus un noson ar gyrion Peniel gan ganu’r corn a gweiddi: ‘This person’s either 107 or is completely drunk – move over will ya!

Nid y gyrrwr oedd yr unig gymeriad lliwgar ar y 701. Yn wir, roedd y bws cyfan yn goctel diddorol o wragedd ffarm oedd wedi bod yn siopa yn y ddinas fawr ddrwg, stiwdants a’u clustffonau’n bleran ac ambell i frodor o Wlad Pwyl yn teithio i’w cartref newydd yn Llanybydder a Llambed.

Weithiau byddech chi’n gorfod eistedd drws nesaf i rywun oedd yn eich holi’n dwll tra ar nosweithiau eraill byddech yn dechrau slwmbran am rai munudau cyn cael eich dihuno gyda gwd shiglad wrth i’r goets fawr fynd dros dwmpathau Alpaidd Alltwalis.

Yn ystod oriau tywyll y gaeaf bydden i ddim yn gallu gweld rhyw lawer o olygfeydd. Er hyn byddai yna ambell i uchafbwynt yn tynnu fy sylw am rai munudau gan gynnwys blasu diwylliant min nos Llambed ac Aberaeron a gweld goleuadau coch Ffatri Laeth Felinfach a mast Blaenblwyf.

Ym mhen dim bydden ni’n cyrraedd gorsaf fysus Aberystwyth ac yn paratoi i hastu lan tyle Penglais nôl i fywyd y Brifysgol cyn ailadrodd y daith unwaith eto ymhen rhai wythnosau.

Gig lansio BroAber360 Nos Wener Mehefin 12fed

Yng nghanol y cloi lawr presennol mae’n siŵr fod llawer ohonoch sydd yn darllen yr erthygl yma wedi bod yn hiraethu am deithiau arbennig ymhob cwr o’r byd ac yn ysu am gael gwneud hynny eto. Beth felly am wrando ar “Hiraeth Fydd (701)” gan Bwca nawr o’r platfformau digidol ac ail-fyw dyddiau’r 701.

Bydd Steff yn perfformio’r gân hon a rhai o ganeuon eraill Bwca mewn gig rhithiol ar Facebook Live yn arbennig i BroAber360 am 8 o’r gloch nos Wener Mehefin 12fed felly cofiwch diwnio mewn.

Er mwyn darganfod mwy am Bwca ewch draw i’w tudalennau Bwca ar Facebook, Instagram, Twitter neu Spotify.

Clawr sengl Bwca “Hiraeth Fydd (701)” gan yr artist Lois Ilar