Yn ystod hanner tymor fis Chwefror bu’r clwb yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Drama’r Sir. Enw’r ddrama eleni oedd “Iechyd Da” lle roedd staff ysbyty Brongwella yn mynd yn sownd mewn lifft rhwng dau lawr – ac un claf marw yn eu canol! Roedd hi’n ddrama llawn hiwmor gyda thro annisgwyl ar y diwedd.
Llongyfarchiadau mawr i’r clwb am ddod yn ail, ac i Owain Davies am ennill y wobr am yr actor gorau o dan 26 mlwydd oed. Hoffem ddiolch yn arbennig i Gary Davies am gyfarwyddo’r ddrama, a llongyfarchiadau mawr iddo am ennill y wobr am y cynhyrchydd gorau yn y gystadleuaeth.
Yn ystod yr un wythnos fe fuodd criw o ferched yn cystadlu yn y ‘Commerical Dance’, ac fe ddaethon nhw’n fuddugol – da iawn ferched! Llongyfarchiadau hefyd i Sioned Howells am ennill y gystadleuaeth Cais am Swydd yn ddiweddar, bydd hithau a’r dawnswyr yn mynd ymlaen i gynrychioli’r Sir ar lefel Cymru fis nesa – pob lwc!
Bydd cyfle i drigolion yr ardal i weld y Ddrama a nifer o berfformiadau eraill yn ein cyngerdd blynyddol ar y 6ed o Fawrth am 7:30yh yn Ysgol Bro Teifi. Bydd hefyd gennym westai arbennig sef C.Ff.I Pontsian, buddugwyr drama C.Ff.I. Ceredigion, i berfformio’u drama nhw. Dewch yn llu!