gan
Lorraine Davies
Eleni fydd y 41fed tro i Ras Sarn Helen gael ei chynnal yn Llanbed. Mae’n ras boblogaidd a drefnir gan Glwb Rhedeg Sarn Helen a daw rhedwyr o bell ac agos i gystadlu.
Mae’n ras o 16.5 milltir o hyd dros bant a bryn mewn ardal hyfryd a cheir ras 9 milltir hefyd i blant. Cynhelir y ras eleni ar Ddydd Sul 17eg o Fai.
Cafwyd hyd i luniau o’r ras yn ôl yn yr 80au. Ydych chi’n adnabod unrhyw un o’r rhedwyr yn y llun du a gwyn uchod? Tynnwyd y llun ar ddechrau’r ras yn Ffordd y Gogledd, Llanbed ger y cae rygbi.
A wnaethoch chi gymryd rhan yn y ras? Oeddech chi’n farsial?
A wnaethoch chi gefnogi’r rhedwyr? Unrhyw straeon i’w rhannu? Cysylltwch â ni!
Dyma ragor o luniau diddorol