Hen luniau o Ras Sarn Helen

gan Lorraine Davies

Eleni fydd y 41fed tro i Ras Sarn Helen gael ei chynnal yn Llanbed.  Mae’n ras boblogaidd a drefnir gan Glwb Rhedeg Sarn Helen a daw rhedwyr o bell ac agos i gystadlu.

Mae’n ras o 16.5 milltir o hyd dros bant a bryn mewn ardal hyfryd a cheir ras 9 milltir hefyd i blant.  Cynhelir y ras eleni ar Ddydd Sul 17eg o Fai.

Cafwyd hyd i luniau o’r ras yn ôl yn yr 80au. Ydych chi’n adnabod unrhyw un o’r rhedwyr yn y llun du a gwyn uchod?  Tynnwyd y llun ar ddechrau’r ras yn Ffordd y Gogledd, Llanbed ger y cae rygbi.

A wnaethoch chi gymryd rhan yn y ras? Oeddech chi’n farsial?
A wnaethoch chi gefnogi’r rhedwyr? Unrhyw straeon i’w rhannu? Cysylltwch â ni!

www.facebook.com/sarnhelenhill

sarnhelenhillrace@gmail.com

Dyma ragor o luniau diddorol

Cefnogwyr ar y Graig ar ddiwrnod braf.
Richard Marks a Dic Evans gyda’r tariannau tu fas i hen adeilad y Clwb Rygbi yn Llanbed.
Dic Evans yn dringo Craig Twrch sy’n rhan o’r ras heriol hon.