“Pan maen nhw’n mynd i mewn a gweld y vending machine… ydy ma fe’n WAW achos mae pobol yn gofyn i chi… wel ble mae’r fuwch?!”

Sgwrs gydag Elliw Dafydd o fferm odro Gwarffynnon yw’r olaf yng nghyfres Blas o’r Bröydd, 2020

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Llaeth lleol, melinau gwynt, a thrît haeddiannol i Siôn Corn ar ddiwedd blwyddyn anodd!

Pandemig neu beidio… dyw’r llaeth byth yn stopio!

Mewn sgwrs gyda Bro360, mae Elliw Dafydd o fferm Gwarffynnon yn trafod y ffordd mae’r cwmni teuluol, sy’n cynhyrchu llaeth ers dros 30 blynedd, wedi addasu, mentro… a llwyddo!

“Mae gwaed y gwartheg gyda ni ers blynyddoedd maith ac mae Dad a Mam wedi bod yn godro ac yn magu teuluoedd ma – ni’n nabod y gwartheg i gyd o ran enwau eu teuluoedd… mae ganddon ni Lili, Popi, Gwenno… a hyd yn oed Elliw!”

Cawn drafod hynt a helynt gweithio ar ffarm deuluol a’r ffordd mae’r pandemig wedi eu hysgogi i fynd amdani… gan sefydlu Bar Llaeth yn ogystal â’r vending machine llaeth – y cyntaf o’i fath yng Ngheredigion.

“Mae’r padenmig wedi gorfodi i ni fod adref 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos… ac mae hynny wedi rhoi’r amser i ni fwrw ati a dod at ein gilydd gyda’n syniadau ni i gyd.”

“Mae hi’n bwysig dal gafael ar y positifrwydd – cymryd rheiny a mynd reit… 2021 – ni’n dod amdano chi!”

Tanysgrifiwch, rhannwch a hoffwch cyfres podlediadau Blas o’r Bröydd gan Bro360, i glywed hanes difyr mwy o fusnesau sydd wedi mentro’n ddiweddar.