Mae trigolion Llanbed yn dihuno i arogl mwg bore ma wedi i dân mawr fod yn safle didloi gwastraff LAS.
Galwyd Brigâd Dân Llanbed i’r safle tua 6 o’r gloch bore ma ac mae sawl injan dân arall yno o hyd gan gynnwys tancyr dŵr arbenigol a swyddogion tân rhanbarthol. Mae mwg dal i ymddangos o’r adeilad mawr lle didolir y sbwriel ar Stâd Ddiwydiannol y dref.
Bu’r diffoddwyr tân yn ceisio diffodd y tân gan ddefnyddio offer anadlu, ac er fod mwg dal i godi o’r adeilad, ymddengys fod y cyfan o dan reolaeth erbyn hyn.
Mae Cwmni LAS yn un o brif gyflogwyr yr ardal yn casglu sbwriel diwydiannol, yn didoli gwastraff ac yn paratoi deunyddiau ar gyfer eu hailgylchu.
Wedi’i sefydlu ym 1963, mae LAS Recycling Cyf yn fusnes teuluol. Maent yn arbenigwyr ar ailgylchu gwastraff lleol, sy’n cynnig ystod o wasanaethau gan gynnwys ailgylchu gwastraff cartref, amaethyddol a diwydiannol.
Mae’r adeilad anferth lle gwelir mwg yn codi ohonni bore ma yn cynnwys peiriannau arbennig i wahanu gwahanol ddeunyddiau ar gyfer eu hailgylchu.
Dywedodd Tina Morris, un o gyfarwyddwyr LAS “Mae’r tân o dan reolaeth a phawb yn saff. Ma’ tipyn o niwed i’r adeilad ond gwaith fel arfer ‘fory.”
Lleolir yr adeilad tu ôl adeilad swyddfa’r cwmni ar yr ystad ddiwydiannol ger cwmnioedd Travis & Perkins, Compass Office Supplies a Chwmni Golwg, ond does dim son bod y tân wedi lledaenu.
Does dim cyhoeddiad wedi bod ynglyn â beth oedd achos y tân.