Meddygfa Brynmeddyg, Llanybydder ar gau i gleifion

Mae lefelau uwch o achosion positif Covid-19 yn yr ardal yn cael effaith ar wasanaethau a siopau.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae lefelau uwch o achosion positif Covid-19 yn yr ardal yn cael effaith ar wasanaethau a siopau yn lleol.  Mae nifer cynyddol o bobl yn gorfod hunan-ynysu, sy’n golygu bod newidiadau sylweddol mewn systemau lleol.

Oherwydd prinder staff, mae Meddygfa Brynmeddyg, Llanybydder ar gau i gleifion. Ni fydd unrhyw apwyntiadau ar gael ym Mrynmeddyg, ond dylai cleifion ffonio 01570 422665 i gael cyngor neu ddefnyddio eConsult trwy’r wefan.

Gofynnir i bawb rannu’r neges hon gyda theulu a ffrindiau sydd wedi’u cofrestru gyda’r Practis.

Mewn datganiad ar ran y Feddygfa, cyhoeddwyd “Diolch i chi am eich amynedd yn ystod yr amser anodd hwn.  Byddwn yn gwneud ein gorau dros bob un o’n cleifion. Mae pob un o’n staff yn gwerthfawrogi’ch cydweithrediad, eich amynedd a’ch dealltwriaeth yn fawr.”

Yn ychwanegol i hyn cyhoeddwyd ddydd Sadwrn fod yna unigolyn yng Nghylch Meithrin Carreg Hirfaen, Cwmann wedi profi’n bositif i Covid-19. Roedd y plentyn yn y Cylch ar Ddydd Mawrth a Dydd Mercher yr 8fed a’r 9fed o Ragfyr.  Mae pob cyswllt agos â’r achos wedi’u hadnabod ac mae angen i bawb a oedd yn y cylch yn ystod y diwrnodau hynny i hunan-ynysu am ddeg diwrnod.  Mi fydd y cylch ar gau tan y flwyddyn newydd.

Ddoe hefyd holwyd i ddisgyblion oedd yn bresennol yn nosbarth 4 Brân Sector Cynradd Ysgol Bro Pedr ar y 9fed i’r 11eg o Ragfyr i hunan-ynysu tan yr 22ain o Ragfyr wedi i’r ysgol dderbyn gwybodaeth am achos Covid-19.  Oherwydd goblygiadau staffio, bydd y Sector Cynradd ar gau heddiw ond gosodir gwaith ar Teams i’r disgyblion am weddill yr wythnos.