Oriau agor newydd Banc Bwyd Llanbed

gan Julia Lim

Yn yr argyfwng presennol bydd y Banc Bwyd ar agor fel arfer, ond bydd ein oriau tipyn yn wahanol:

Dydd Llun 13.00 – 17.00
Dydd Mercher 9.00 – 17.00
Dydd Iau 9.00 – 13.00
Dydd Gwener 9.00 – 17.00

Byddwn ni’n derbyn cyfraniadau bwyd Dydd Mawrth a Dydd Sadwrn, a phrynhawn Iau ar ôl 13.00.

Mae ffôn y Banc Bwyd ar agor Dydd Llun – Dydd Gwener 9.00 -17.00; rydym ar Facebook hefyd: lampeterfoodbank: https://www.facebook.com/lampeterfoodbank/

Mae rhestr yr asiantaethau yn aros yr un peth, heblaw bod rhai eglwysi a chapeli yn Lanbed hefyd yn gallu cyfeirio atom: St Thomas, Noddfa, Sant Pedr, Emmaus, Eglwys Efengylaidd Llanbedr.