Oriel Jones – colli cymeriad, cymwynaswr a chyflogwr lleol

Bu farw’r dyn busnes a roddodd Llanybydder ar y map.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Oriel Jones mewn priodas yn 2015. Llun gan Nia Wyn Davies.

Bu farw Oriel Jones, yn ei gartref yn Llanfihangel-ar-arth yn 89 oed ar y 6ed o Fai.

Rhoddodd bentref Llanybydder ar y map drwy sefydlu lladd-dy llewyrchus yma a oedd yn adnabyddus am gyflenwi prif archfarchnadoedd y wlad a thu hwnt.

Roedd yn ddyn teulu hoffus, yn ddyn busnes craff, yn ŵr bonheddig ac yn gefnogwr brwd i bopeth lleol.

Oriel Jones y pedwerydd o’r chwith mewn digwyddiad yng Nghartref Annedd, Llanybydder. Hen lun gan Donna Hage ar dudalen facebook Caru Llanybydder.

Ar ôl cael ei eni yn Llangeithio ym 1930, treuliodd Oriel ei blentyndod cynnar yn Llundain, gan ddychwelyd i fferm ei ewythr Jac yn Llanybydder pan ddechreuodd y rhyfel. Yma y dechreuodd ei ddiddordeb mewn cigyddiaeth a ffermio.

Yn 21 oed, cychwynnodd Oriel ei rownd gig ei hun a dechrau delio â da byw. Yna prynodd dyddyn bach ar gyrion y pentref, lle dechreuodd ladd anifeiliaid yn yr hen ysgubor, gan gyflenwi siopau cigydd lleol. Yna aeth ymlaen i gyflenwi’r cynnyrch Cymreig gorau i farchnad Smithfield yn Llundain.

Ym 1978 cwblhawyd lladd-dy pwrpasol newydd yn Llanybydder a chafwyd trwydded allforio ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Bu mab Oriel, sef Barry yn cyd redeg y cwmni hefyd am flynyddoedd.

Ar un adeg roedd loriau Oriel Jones, Llanybydder yn frith ar heolydd y cyfandir. Llun gan chris.farnah ar flickr.com

Erbyn diwedd yr 80au roedd y lladd-dy lleol yn prosesu mwy na 5000 o ŵyn y dydd. Yn 2001 prynwyd Oriel Jones & Son Ltd gan gwmni Dunbia.

Fodd bynnag, arhosodd Oriel yn flaengar ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru ac roedd yn falch o fod yn rhan o ddiwydiant mor fawreddog, gan ymgymryd â swyddi fel Cadeirydd Ffederasiwn Cyfanwerthwyr Cig Ffres, Cadeirydd Cyngor Dosbarth Sir Gaerfyrddin a Chymrawd Cyngor Gwobrau Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol.

Barry, Shaun ac Oriel Jones ar dir y ffarm yn Llanybydder.

Derbyniodd Oriel MBE hefyd am ei wasanaethau i amaethyddiaeth a’r hyn a roddodd y boddhad mwyaf iddo yn y blynyddoedd diwethaf oedd gweld ei ŵyr Shaun yn agor cigydd a siop gig gyfoes yn y brif ddinas gan barhau â’i enw – Oriel Jones i gwsmeriaid newydd a chynnal safonau uchel yn cyflenwi cig o Gymru.  Mae’r cigydd ym Nhreganna a siop gig ym Mhontcanna, Caerdydd.

Oriel Jones ar achlysur ei ben-blwydd yn 80 oed. Llun gan Nia Wyn Davies

Mae e’n gadael gwraig ac roedd yn dad, llys dad, tad-cu ac yn hen dad-cu annwyl.  Cydymdeimlir yn ddiffuant â’r teulu oll gan ddiolch am fywyd gŵr a gyflogodd gannoedd o bobl yn lleol dros y blynyddoedd.

1 sylw

Esther Wood
Esther Wood

Gwr bonheddig – Colled mawr x

Mae’r sylwadau wedi cau.