Mae Ysgol Bro Pedr, wedi derbyn tystysgrif yn dangos bod canlyniadau Safon Uwch y tair blynedd diwetha’ yn rhoi’r ysgol yn y 25% uchaf o ysgolion a cholegau ledled gwledydd Prydain i gyd.
Mae’r ymchwil gan gwmni data ALPS wedi ei seilio ar ganlyniadau Safon Uwch 2668 o ysgolion a cholegau ar draws y Deyrnas Unedig.
Fe roddodd y Cynghorydd Ivor Williams, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Bro Pedr, groeso cynnes i’r newyddion am yr ysgol 3-19 oed.
“Mae’n gydnabyddiaeth o waith caled ac ymroddiad staff yr ysgol – o’r cyfnod meithrin yr holl ffordd at yr arholiadau allanol yn 18 oed,” meddai.
“Mae’n dangos yn glir iawn bod yr ysgol yn cynnal safonau uchel ac yn cynnig cyfleoedd cyfoethog i’n disgyblion. Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion a staff yr Ysgol”.