Kelly Jones o Langybi sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn Cyfrinachau’ rhifyn Hydref Papur Bro Clonc.
Mae Kelly yn rheolwr Y Talbot, Tregaron a’r peth gorau am ei swydd yw ei chydweithwyr. Ar y llaw arall, y peth gwaethaf am ei swydd yw gorfod codi am 6.30 y bore.
Petai’n sownd ar ynys anghysbell byddai’n dymuno gael cwmni ei chariad Rhys “byddai rywsut yn troi unrhyw sefyllfa yn ddiwrnod doniol a chofiadwy.”
Hoff atgof plentynod i Kelly yw ei mam-gu yn cerdded i’r ysgol i’w chasglu a mynd i’r parc i gael hufen iâ o siop Llangybi.
Y lleoliad mwyaf annisgwyl iddi ddihuno yn y bore oedd ar lawr Canton Kitchen. Beth oedd y stori tu ôl i hynny tybed?
Pryd lefodd hi ddiwethaf? Beth oedd yr eiliad a newidiodd ei bywyd? Ar beth y gwnaeth hi orwario arno fwyaf? Gallwch ddarganfod hyn a mwy yn rhifyn cyfredol Papur Bro Clonc sydd ar werth nawr yn y siopau lleol.